Os nad yw eich ymholiad yn un brys, ystyriwch ddefnyddio dulliau eraill i gysylltu â ni
Ar gyfer unrhyw ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, gofynnwn yn garedig i chi eu hanfon atom gan ddefnyddio eich cyfrif MyNewydd neu e-bostiwch enquiries@newydd.co.uk
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi datblygiad tai newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a M&J Cosgrove Construction Limited. Llofnodwyd contractau ym mis Mehefin 2024, a dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Medi 2024.
Bydd y datblygiad hwn yn cynnig 17 o gartrefi newydd ar rent fforddiadwy, wedi'u hadeiladu i'r sgôr effeithlonrwydd ynni uchaf (EPC-A) i gadw effaith amgylcheddol yn isel a biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr yn y tymor hir. Mae’r cynllun yn cynnwys:
10 x fflat 1 ystafell wely 2 berson
4 x fflat 2 ystafell wely 3 pherson
2 x tŷ 2 ystafell wely 4 person
1 x byngalo 2 ystafell wely 3 pherson
Derbyniodd y cynllun £4.2m hwn gyllid gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghenion tai lleol a bydd wedi’i gwblhau erbyn Ionawr 2026.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau cartref yn Rhondda Cynon Taf, dechreuwch drwy gofrestru gyda'r awdurdod lleol. Byddant yn eich tywys drwy'r broses ymgeisio ac yn ymdrin ag unrhyw gwestiynau sydd gennych.