Ymddygiad gwrth gymdeithasol

Beth ydy ymddygiad gwrth gymdeithasol?

'Gweithrediadau difrifol neu barhaus gan berson(au) sy'n achosi aflonyddwch, pryder neu ofn.'

Dyma esiamplau:

  • Sŵn uchel
  • Cam-drin geiriol
  • Aflonyddwch neu fygythiadau
  • Ymddygiad bygythol
  • Tipio anghyfreithlon
  • Cynnau tân yn fwriadol
  • Delio mewn cyffuriau
  • Unrhyw drosedd casineb ynghylch hil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, crefydd, anabledd neu oedran person.

Gallwch roi gwybod i ni am niwsans drwy drwy lenwi ffurflen dyddiadur digwyddiad a’i e-bostio at asb@newydd.co.uk

Byddwch yn realistig os gwelwch yn dda

Efallai y bydd ymddygiad rhywun yn mynd ar eich nerfau, ond dydy hynny ddim yn ei wneud yn wrth gymdeithasol. Nid yw un parti, plant yn chwarae yn y stryd, anifeiliaid anwes yn crwydro ar draws eich gardd, neu sŵn mewn cartrefi fel babanod yn crio neu doiledau'n cael eu glanhau yn ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Ceisiwch siarad...efallai nad yw eich cymydog yn sylweddoli eu bod yn creu problem.

Yn yr un modd, er ein bod yn casáu bwlio, os oes rhywun yn aflonyddu ar eich plentyn yna mae angen i rieni ddelio gyda hynny'n brydlon a'i atal rhag gwaethygu.

Mae angen inni sefyll i fyny

Mae hi bron yn amhosibl datrys cwynion di-enw ac mae angen inni sicrhau nad ydy'r gwyn yn un faleisus neu ddisail. Fe fyddwn angen eich manylion cyswllt i ymchwilio i'r gwyn a rhoi gwybod i chi am y datblygiadau.

Gweithiwch gyda ni

Fe fyddwn yn delio gydag ymddygiad gwrth gymdeithasol ond mae angen i chi weithio gyda ni. Mae angen i chi sylweddoli bod ymddygiad gwrth gymdeithasol yn gyfrifoldeb i bawb sydd yn byw yn y gymdogaeth ble mae hynny'n digwydd. Trwy weithio'n agos gyda chi a gydag asiantaethau eraill, fel yr heddlu ac awdurdod lleol, rydym yn ceisio cael ateb hir dymor; ond byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda, mae'r ymchwiliad a'r casglu tystiolaeth yn gallu cymryd amser.

Gyda phwy y dylech gysylltu?

Os ydych yn teimlo eich bod yn dioddef ymddygiad gwrth gymdeithasol cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0303 040 1998 ac fe fyddan nhw yn esbonio'r broses ac yn cymryd y manylion perthnasol gennych chi.

Hefyd mae modd cysylltu gyda'r heddlu ar 101 i achosion heb fod yn rhai brys ac mae modd cael gafael ar rif ffôn symudol eich Swyddog Cymorth Cymunedol Heddlu lleol (PCSO) ar wefan yr heddlu.

Cysylltiadau eraill

Ar gyfer niwsans sŵn, niwsans cŵn, a phroblemau amgylcheddol fel sbwriel a thipio anghyfreithlon cysylltwch â'ch awdurdod lleol ac/neu Gynghorydd.

Bro Morgannwg: 01446 700111

Rhondda Cynon Taf: 01443 425001

Powys: 01597 827460

Castell-nedd Port Talbot: 01639 686868

Caerdydd: 02920 872087

Caerffilli: 01443 815588

Ceredigion: 01545 570881

Merthyr Tudful: 01685 725000

Torfaen: 01495 762200

Cymorth i ddioddefwyr a thystion

Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn helpu unrhywun sydd wedi cael ei effeithio gan drosedd, nid yn unig dioddefwyr a thystion, ond eu ffrindiau, teulu ac unrhyw berson arall cysylltiedig. Am ragor o wybodaeth ewch ar eu gwefan neu allwch alw 0300 303 0161.