Cynnydd mewn costau byw

Mae'r cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar lawer o'n tenantiaid. Rydym wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ac arweiniad at ei gilydd i'ch helpu drwy gydol y cyfnod hwn. Cliciwch yma am 'Cynorthwyydd Costau Byw' gan Hyde.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu o arweiniad arnoch, mae ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol ar gael i roi cymorth. Gallwch gysylltu â nhw yma: financialinclusion@newydd.co.uk.

Isod, fe welwch fod nifer o grantiau ar gael i chi, neu i aelodau o’ch teulu:

Credyd Pensiwn

Mae’r AGP wedi lawnsio ymgyrch i hybu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn, a allai fod yn werth £3,900 y flwyddyn i bensiynwyr. Gyda 880,000 o bensiynwyr yn colli allan, mae Wythnos Weithredu Credyd Pensiwn yn anelu at codi ymwybyddiaeth a chynyddu hawliadau. Bydd pensiynwyr cymwys hefyd yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig.

  • Mae angen i bensiynwyr fod â hawl i Gredyd Pensiwn am o leiaf un diwrnod o’r wythnos Medi 16 i 22 i fod yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer y gaeaf hwn.
  • 21 Rhagfyr yw’r diwrnod olaf ar gyfer ôl-ddyddio cais am Gredyd Pensiwn i 22 Medi, gan dybio bod yr hawlydd wedi bodloni amodau hawl Credyd Pensiwn trwy gydol y tri mis blaenorol.

Gellir gwneud ceisiadau am Gredyd Pensiwn ar y dudalen Sut i wneud cais ar GOV.UK neu dros y ffôn drwy ffonio 0800 99 1234 (Dydd Llun i ddydd Gwener 8yb i 6yp).

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, gallwch gysylltu â’r Tîm Cynhwysiant Ariannol.

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd i dalu eich biliau tanwydd?

Bydd eich biliau ynni yn parhau i godi eleni.  Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd i reoli hynny, gallwch gael cyngor diduedd am ddim ar sut y gallwch gadw'n gynnes ac arbed arian gan:

Mae Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi lansio Teclyn Llywio Ariannol newydd ar-lein er mwyn helpu pobl sydd wedi gweld effaith Covid-19 ar eu harian, a chan ddarparu cyfarwyddyd sydd wedi eu llunio i ddiwallu eu hanghenion. 

Budd-daliadau

Mae yna fudd-daliadau amrywiol i'ch helpu os ydych ar incwm isel. Gallwch wirio'ch hawl i gael budd-dal trwy gynnal gwiriad budd-dal gan ddefnyddio'r gwefannau hyn:

Cronfa Cymorth Llywodraeth Cymru

Grant yw hwn i helpu gyda chostau hanfodol ar ôl argyfwng, neu os ydych chi wedi profi trychineb fel llifogydd neu tân yn eich cartref, neu trafferthion ariannol am resymau gan gynnwys oedi cyn talu budd-daliadau. Bydd y taliad yn eich helpu i dalu costau bwyd, nwy a thrydan, dillad a theithio mewn argyfwng.

Nid yw'r gronfa wedi'i chynllunio i gwmpasu diffygion ariannol parhaus. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais cliciwch yma.

Banciau Bwyd

Os oes angen cyflenwadau bwyd arnoch ac rydych yn ei ffeindio yn anodd ei fforddio gallwch gysylltu â'r Tîm Cynhwysiant Ariannol i ofyn am daleb. Am fwy o wybodaeth am fanciau bwyd cliciwch yma

Dyled

Os oes angen cefnogaeth arnoch gyda dyled gallwch gysylltu â chwmni cofrestredig fel Cyngor ar Bopeth neu Step Change.

Tariff Cymdeithasol Band Eang a Chymorth i Gartrefi

Mae hwn yn wasanaeth newydd a fydd yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn i hawlwyr budd-daliadau gael band eang sydd yn rhatach. Os yw’r hawlydd yn rhoi caniatâd i’w cyflenwr band eang, bydd yn gallu cysylltu â DWP (Department for Work and Pensions) i wirio ei hawl i fudd-daliadau penodol gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Mae’r Llywodraeth wedi galw ar bob cyflenwr band eang i gynnig bargeinion band eang am bris gostyngol i bobl ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. Cynghorir hawlwyr i wirio gyda'u darparwr a ydynt yn cefnogi'r cynllun.

Pecynnau band eang a ffôn rhatach

Cymorth ychwanegol

Os ydych yn cael trafferth ar unrhyw adeg, gallwch ofyn i'ch Cyngor a oes ganddynt gynllun a allai eich helpu. Mae gwahanol gynghorau wedi sefydlu gwahanol gynlluniau, ond maent i gyd wedi cael arian i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd, ac i redeg cynlluniau ariannu dewisol.

Mae Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi lansio Teclyn Llywio Ariannol newydd ar-lein er mwyn helpu pobl sydd wedi gweld effaith Covid-19 ar eu harian, a chan ddarparu cyfarwyddyd sydd wedi eu llunio i ddiwallu eu hanghenion. 

Cefnogaeth yr Awdurdod Lleol

Efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gallu darparu cefnogaeth i chi. I gael mwy o wybodaeth am gau ysgolion, gofal plant brys, prydau ysgol am ddim a chyngor i rieni dilynwch y ddolen ar gyfer eich awdurdod lleol.

Rhonnda Cynon Taf

Bro Morgannwg

Castell-nedd Port Talbot

Caerdydd

Powys