Prosiectau Cymunedol

Yma yn Newydd, rydym eisiau creu cymunedau ffyniannus, cynaliadwy ar gyfer ein tenantiaid a’r ardaloedd maent yn byw ynddynt. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n contractwyr i ddarparu nid yn unig gwasanaethau neu gynhyrchion, ond hefyd fudd i’n cymunedau. Gall hyn fod drwy’n rhaglen cynnal a chadw datblygu neu wedi’i gynllunio, neu drwy gwmni sy’n darparu ein ffonau symudol gwaith.

 Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyfleoedd profiad gwaith
  • Cyfleoedd prentisiaeth
  • Ymgysylltu ag ysgolion
  • Cefnogi prosiectau a mentrau cymunedol

Rydym yn awyddus i gefnogi:

  • Prosiectau adfywio (adfywio ardaloedd cyfunol drwy beintio ac addurno, glanhau, ayyb.)
  • Prosiectau artistig/creadigol (helpu i ddylunio a gosod prosiect celf)
  • Prosiectau amgylcheddol (gwella lleoedd gwyrdd)

Gwyliwch ein fideo isod lle ymunodd Newydd, Trivallis , Linc a RHA â Chyngor Rhondda Cynon Taf i adnewyddu stryd fawr Tonyrefail fel rhan o brosiect buddion cymunedol.

Wnaeth gwirfoddolwyr o Trivallis, Linc, RHA a Newydd ynghyd â gweithwyr y cyngor a thrigolion lleol, yn dod ynghyd i wneud y paentiad.

Mae'r fenter hon yn rhan o ymdrech ehangach i gyflwyno buddion cymunedol wrth i'r sefydliadau hyn barhau i ddatblygu cartrefi newydd a gweithio yn Nhonyrefail.

Mae’r ymdrech gydweithredol i beintio blaenau siopau Tonyrefail yn cynrychioli’r ysbryd cymunedol cryf a’r buddsoddiad yn nyfodol Tonyrefail. Gyda’n gilydd, gallwn greu stryd fawr mwy disglair a chroesawgar i bawb. 

Oes prosiect yn eich cymuned yn dod i’ch meddwl? Cwblhewch y ffurflen gyswllt isod ac fe wnawn ni gysylltu â chi i weld a allwn ni helpu!

Gofyn am ragor o wybodaeth