Argyfyngau

Tân

  • Deialwch 999. Sicrhewch bod pawb allan a pheidiwch â mynd yn ôl am unrhyw reswm
  • Caewch yr holl ddrysau a ffenestri
  • Rhybuddiwch eich cymdogion os allai unrhyw rai ohonynt fod mewn peryg

Os ydych chi’n arogli nwy

  • Agorwch y drysau a’r ffenestri i gael gwared â’r nwy
  • Edrychwch a ydych chi wedi gadael y nwy ymlaen heb fflam, neu a yw’r fflam beilot wedi diffodd. Os felly, trowch y ddyfais i ffwrdd, a pheidiwch â cheisio ei thanio eto nes i’r aroglau nwy glirio o’r eiddo
  • Os na ellir stopio’r gollyngiad drwy droi dyfais i ffwrdd, neu os nad ydych yn siŵr a yw wedi ei stopio ai peidio, trowch y prif gyflenwad nwy i ffwrdd wrth y mesurydd a ffoniwch y gwasanaeth brys nwy yn syth. Galwch National Grid ar 0800 111 999
  • Peidiwch â throi unrhyw switsys trydanol ymlaen nac i ffwrdd
  • Peidiwch â defnyddio cloch y drws
  • Peidiwch ag ysmygu
  • Peidiwch â defnyddio matsis na fflamau noeth

Peipen wedi byrstio neu’n gollwng

  • Diffoddwch y dŵr wrth y prif gyflenwad
  • Os effeithiwyd ar y trydan, diffoddwch y trydan wrth yr uned defnyddwyr
  • Ffoniwch Newydd ar 0303 040 1998 24 awr o'r diwrnod

Colli trydan

  • Os effeithiwyd hefyd ar eich cymdogion, ffoniwch eich cwmni trydan (edrychwch ar eich bil trydan i gael y rhif).

Ar gyfer gwaith trwsio brys, ewch i’n tudalen ar fathau gwahanol o waith trwsio.