Rydym yn gofalu am iechyd a llesiant ein tenantiaid. Mae’r prosiect HAPI (iach, uchelgeisiol, ffyniannus a chynhwysol) yn gwneud gwahaniaeth positif i iechyd a llesiant y cymunedau sy’n byw yn ac o amgylch Caerdydd a Bro Morgannwg. Wedi’i ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, darperir HAPI fel rhan o ymrwymiad Cymdeithas Tai Newydd i greu cymunedau cynaliadwy.
Mae HAPI yn gobeithio gweithio gyda thenantiaid a phreswylwyr i wella eu llesiant cyffredinol drwy ddarparu gweithgareddau AM DDIM drwy’r themâu canlynol:
Bwyd a maeth: Cyrsiau sgiliau maeth am oes a chyrsiau coginio sylfaenol.
Gweithgarwch Corfforol :Sesiynau ymarfer corff cymunedol, ymarferion teuluol, GetFit.Wales a llawer mwy.
I gael gwybod mwy am brosiect Hapi, ewch i’n tudalen Hapi ar Facebook drwy glicio'r botwm isod.