Gweithdrefn Cwyno

Os nad ydych yn fodlon ar wasanaeth a gewch gan Newydd, mae’n bwysig rhoi gwybod i ni. Gallwch fynegi eich pryder yn unrhyw un o’r ffyrdd isod.

  • Cysylltwch ag unrhyw aelod o staff Newydd a bydd yn ceisio datrys eich problem.
  • Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch ofyn am sylw ffurfiol i’ch cwyn. Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
  • Ffoniwch ni ar 0303 040 1998
  • Anfonwch e-bost atom at
  • ymholiadau@newydd.co.uk
  • Ar lafar drwy ddweud wrth unrhyw aelod o staff
  • Ysgrifennwch lythyr atom yn y cyfeiriad canlynol:

Grŵp Tai Cadarn, 5 Village Way, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7NE

I gael copi o’n polisi pryderon a chwynion a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi, cysylltwch ag unrhyw aelod o’r staff neu gallwch ddarllen y polisi yma. Yn anffodus, nid oes fersiwn Gymraeg o'r ddogfen yma ar gael ar hyn o bryd. Os hoffech chi dderbyn gopi o'r fersiwn Gymraeg, anfonwch e-bost at marketing@newydd.co.uk.

Gellir cyflwyno cwynion hefyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ond rydym yn croesawu cyfle i gywiro mater cyn cynnwys yr Ombwdsmon.

Gofyn am ragor o wybodaeth