Os nad yw eich ymholiad yn un brys, ystyriwch ddefnyddio dulliau eraill i gysylltu â ni
Ar gyfer unrhyw ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, gofynnwn yn garedig i chi eu hanfon atom gan ddefnyddio eich cyfrif MyNewydd neu e-bostiwch enquiries@newydd.co.uk
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad £2 filiwn hwn ym mis Tachwedd 2019. Dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Mawrth 2021 gan CW Facilities Management a derbyniodd y cynllun arian gan Lywodraeth Cymru, Tir ar gyfer Tai, er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion tai lleol.
Mae'r datblygiad hwn yn awr yn darparu 12 fflat un ystafell wely a 2 fflat dwy ystafell wely ar gyfer rent fforddiadwy yn nhref glan môr ddymunol y Barri.
Brains Pubs oedd yn berchen ar y safle yn flaenorol ac fe’i prynwyd gan Newydd fel rhan o bortffolio o 3 safle. Mae'r dafarn o fewn y cynllun hwn bellach yn cael ei hysbysebu i'w rhentu, a cheir manylion amdanynt yma Castle Hotel, 44 Jewel Street, Barry – EJ Hales.