Trwydded deledu
Os bwriadwch wylio teledu'n fyw, neu eisiau lawrlwytho rhaglenni o BBC iPlayer, mae angen i chi brynu trwydded deledu berthnasol. Mae hwn yn wir hyd yn oed os ydych yn defnyddio teledu, cyfrifiadur, gluniadur, tabled neu ffôn.
Mae trwydded deledu yn costio £159 y flwyddyn.
Os oes gennych drwydded deledu eisoes, bydd angen ichi roi gwybod iddynt am eich cyfeiriad newydd drwy fynd at www.tvlicensing.co.uk/moving, neu drwy fynd at eich Swyddfa Bost leol. Gallech gael dirwy hyd at £1,000 os ydych yn gwylio neu recordio teledu byw heb drwydded.