Talu rhent a thâl gwasanaeth

Bancio ar y rhyngrwyd neu dros y ffôn

Gallwch wneud taliad yn syth i’ch cyfrif rhent ar-lein drwy glicio ar y logo Allpay hwn. Bydd angen eich cerdyn talu rhent arnoch. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar wefan Allpay i dalu.

Fedrwch hefyd dalu drwy ffonio 0330 041 6497. Mae'r rhif yma ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Cliciwch y botwm isod i dalu ar-lein.

Fy Newydd

Cofrestrwch ar gyfer Fy Newydd yma, neu defnyddiwch y botwm ar ben y dudalen yma. Trwy Fy Newydd, mi allwch chi gadw golwg a thalu eich rhent. Fedrwch hefyd rheoli eich gwaith trwsio, riportio ymddygiad gwrth-gymdeithasol, newid eich manylion, anfon neges atom yn uniongyrchol a mwy. 

Ffôn clyfar

Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar, mae ffordd newydd o dalu’ch rhent. Mae Allpay wedi lansio cymhwysiad newydd y gellir ei lwytho i lawr yn rhad ac am ddim, a fydd yn ei gwneud yn llawer haws i dalu eich rhent.

Debyd Uniongyrchol

Mae’n siŵr mai talu drwy ddebyd uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu heb giwio. Bydd yr arian yn mynd yn syth o’ch cyfrif banc er mwyn talu’ch rhent mewn pryd bob amser. Os hoffech dalu â debyd uniongyrchol, cysylltwch.

Swyddfa Bost neu PayPoint

Ar ddechrau’ch contract, byddwn yn archebu cerdyn talu rhent i chi. Defnyddiwch eich cerdyn talu rhent unrhyw le sy’n arddangos yr arwydd Paypoint i dalu’ch rhent ag arian neu siec e.e. unrhyw Swyddfa Bost, eich siop leol, siop bapur newydd neu orsaf betrol. Cofiwch gadw’ch derbynneb.

Dros y ffôn

Gallwch ein ffonio ar 0303 040 1998 i dalu’ch rhent â cherdyn credyd neu ddebyd. Cofiwch gadw’ch rhif contract wrth law er mwyn inni ddod o hyd i’ch manylion yn gynt.

Gofyn am ragor o wybodaeth