Cael gafael ar Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol

Sut y gallaf wneud cwyn?

Gallwch roi gwybod i ni am niwsans drwy lenwi ffurflen dyddiadur digwyddiad a’i e-bostio at asb@newydd.co.uk Ni fyddwn yn datgelu pwy ydych chi i’r person yr ydych yn cwyno amdanyn nhw oni bai eich bod yn rhoi caniatâd inni wneud hynny.

Gellir gwneud cwynion yn ddienw ond cofiwch y gall hyn ei gwneud yn anodd inni gynnal ymchwiliad ac i weithredu wedi hynny.

Beth y gall Newydd ei wneud?

Mae yna gyfrifoldeb ar holl denantiaid Newydd yn eu cytundebau na fyddan nhw’n achosi niwsans neu ddiflastod i’w cymdogion nac i unrhyw un yn yr ardal gyfagos. Mae tenant hefyd yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw blant neu anifeiliaid anwes yn eu cartref, yn ogystal ag unrhyw ymwelwyr.

Fe fydd Newydd yn cynnal ymchwiliad i bob cwyn resymol i weld beth ydy ffeithiau llawn pob achos. Caiff pob achos ei gofnodi a’i roi i swyddog dynodedig oddi mewn i’r Tîm Tai. Fe fydd eich swyddog yn cytuno ar gynllun gweithredu gyda chi i ddatrys y niwsans. Mae sut y bydd eich swyddog yn delio gyda’r gwyn yn dibynnu ar ba fath o ymddygiad gwrth gymdeithasol sydd dan sylw. A hefyd amlder a dwyster yr ymddygiad.

Dyma rai o’r atebion y gallwn eu cynnig;

  • Cyfryngu – dod â chymdogion at ei gilydd i ddatrys eu gwahaniaethau.
  • Rhybudd llafar neu ysgrifenedig.
  • Ymweliad cartref gyda’r heddlu neu asiantaeth arall i drafod yr ymddygiad.
  • Darparu cefnogaeth – mae gweithio gydag asiantaethau eraill i roi cefnogaeth i’r troseddwr yn aml yn gallu datrys ymddygiad gwrth gymdeithasol.
  • Gweithio gydag asiantaethau eraill – efallai mai nid un tenant sy’n creu ymddygiad gwrth gymdeithasol. Gall fod gangiau o bobl ifanc neu broblem tipio anghyfreithlon cyffredinol ar ystad. Mae gweithio gydag asiantaethau eriall yn ein galluogi i ddatblygu nifer o brosiectau a mentrau i ddelio gydag amrediad eang o broblemau.

Gwaharddeb sifil

Pŵer sifil i atal Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol person rhag cynyddu a gosod safon clir o ymddygiad. Gall gynnwys gofynion gwaharddiadol a chadarnhaol i gyflawnwyr 10 oed a throsodd.

Gofyn am ragor o wybodaeth