Yr hyn rydyn ni'n eisiau gwneud

  • Rydym eisiau cefnogi ein cymunedau i dyfu mewn amgylchedd cynaliadwy a diogel
  • Rydym eisiau bod yn gymdeithas dai sydd ymysg y perfformwyr gorau, lle mae’r staff eisiau gweithio i helpu adeiladu cymunedau cynaliadwy a dyfodol gyda sicrwydd ariannol
  • Rydym eisiau cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn “Rhaglen Lywodraethu 2021–2026” a’r Datganiad Llesiant cysylltiedig
  • Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd Sero Net erbyn 2050 ac rydym yn datblygu cynlluniau i gyflawni hyn
  • Rydym eisiau darparu tai diogel ar gyfer pobl ddigartref, a chyfrannu tuag at ddatblygiad a gweithrediad strategaethau digartrefedd ein hawdurdodau lleol partner
  • Rydym eisiau cefnogi ein tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau a sicrhau bod ein rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy
  • Rydym eisiau cadw ein tenantiaid yn ddiogel a’n heiddo wedi eu cynnal a’u cadw i safon uchel
  • Rydym eisiau helpu ein cymunedau i adfer o’r pandemig COVID-19
  • Rydym eisiau darparu gwasanaethau rhagorol sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o ddiwylliannau o fewn ein cymunedau
  • Rydym eisiau cefnogi ein partneriaid rhanddeiliaid lleol i gyflawni eu huchelgeisiau:
  •        Amcanion Cyngor Bro Morgannwg a gyhoeddwyd yn “Gweithio Gyda’n Gilydd am Ddyfodol Disgleiriach: Y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020–2025”
  • Amcanion CBS Rhondda Cynon Taf yn “Gwneud Gwahaniaeth – Cynllun Corfforaethol 2020–2024”
  • Amcanion Cyngor Sir Powys yn “Powys 2025”