Anifeiliaid anwes

Rydym yn deall bod cadw anifail anwes yn cynnig buddion mawr i’w perchnogion ac felly’n annog hynny. Fodd bynnag, mae perchnogion anghyfrifol gallu achosi problemau i bobl sy’n byw ger llaw, felly mae’n hanfodol cael rheolau i sicrhau bod dim drwg effaith ar gymdogion.

Mae rhaid i denantiaid cael caniatâd gan Newydd i gadw anifeiliaid anwes a bydd pob cais i gadw un yn cael ei ymdrin yn unigol. Ni fydd caniatâd yn cael ei wrthod heb reswm ond bydd amodau yn cael eu gosod. Defnyddiwch Fy Newydd neu ebostiwch ni ar ymholiadau@newydd.co.uk i gysylltu â ni.

Bydd rhaid i denantiaid ystyried cost lawn o gadw anifail a ni fydd caniatâd yn cael ei roi i unrhyw un lle nad yw’r anifail wedi derbyn microsglodyn na ei gofrestru â milfeddyg. Cofiwch, heb gynnwys cost y ci, costau prynu ci yw tua £1,000. 

Ar gyfer bwyd, nwyddau hanfodol, teganau, gwely, yswiriant, biliau milfeddyg, brechiadau, ysbaddu, glanhau dannedd, microsgldyn, a chenelau, mae cost blynyddol cadw ci yn aml dros £1,100. Mae costau meddygol eraill gallu costio hyd at £5000 a phan fydd yr anochel yn digwydd, gall cost amlosgi eich ci fod yn fwy na £200.