Ein hymrwymiad i gydraddoldeb
Mae Newydd yn falch iawn o fod yn gyflogwr sy’n cynnig cyfleoedd cyfartal. Rydym yn parchu, ac yn ceisio grymuso ein pobl trwy gefnogi’r diwylliannau amrywiol, safbwyntiau, sgiliau a phrofiadau amrywiol o fewn ein gweithle. Credwn yn gryf po fwyaf cynhwysol yr ydym, y gorau fydd safon ein gwaith.
Rydym yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu annheg ar sail hil, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd, rhyw, statws priodasol, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw nodwedd berthnasol arall yn y ddarpariaeth o dai, gwasanaethau neu gyflogaeth. Rydym yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, yn enwedig o blith pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anableddau sydd ddim yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn ein gweithle ar hyn o bryd.
Os ydych yn gwneud cais am swydd gyda ni, byddwn:
- yn recriwtio a hyrwyddo staff ar sail eu gallu, a pha mor addas ydynt i wneud y gwaith
- yn darparu hyfforddiant a chyfleon eraill i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau
- yn sicrhau bod gennych yr offer angenrheidiol i wneud eich gwaith yn effeithiol
- yn cymryd camau buan ac effeithiol os bydd rhywun yn aflonyddu arnoch yn y gwaith
- yn monitro ein harferion recriwtio i sicrhau nad ydym, yn anfwriadol, yn rhoi grwpiau penodol o bobl dan anfantais, ac yn nodi’r ffyrdd y gallwn eu defnyddio i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn fwy effeithiol
Rydym yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) i bob gweithiwr Newydd ac i aelodau’r Bwrdd. Mae hwn yn gwrs ar ymwybyddiaeth gyffredinol ac mae’n cynnwys gwahaniaethu ar draws pob agwedd gan gynnwys rhyw, ethnigrwydd, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred. Yna, byddwch yn mynychu cwrs wyneb yn wyneb, ble fyddwn yn archwilio EDI yn fanylach ar gyfer deall ein rhagfarnau anymwybodol, dysgu beth yw micro-ymosodedd a rhoi’r hyder i chi adnabod a herio iaith neu ymddygiad amhriodol ac i hyrwyddo cynhwysiant.
Mae pob un o’n swyddfeydd yn hygyrch i’w defnyddio ac mae ganddynt fannau parcio hygyrch, sydd yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoleb 2010. Mae lifftiau a dolen glyw ar gael, yn ogystal gallwn ddarparu gwybodaeth mewn ffont mawr. Mae gennym ni doiledau pob rhywedd ar bob llawr, felly gallwch chi eu defnyddio heb fod angen cael eich adnabod fel rhyw benodol. Mae gennym ystafell aml-ddefnydd ar gyfer lles y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gweddïo a myfyrio, neu ar gyfer bwydo ar y fron/mynegi staff.
Rydym wedi ein hachredu fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, cynllun sy’n cael ei redeg gan y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i gyflogi pobl ag anableddau. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich anghenion a byddwn yn edrych ar addasiadau rhesymol i'ch galluogi i gyflawni’r swydd. Rydym yn gwarantu cyfweliad os oes gennych anabledd, ar yr amod eich bod yn bodloni meini prawf sylfaenol y swydd wag.
Os y bydd diffyg cynrychiolaeth mewn adrannau neu rolau swyddi penodol, bydd camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i sicrhau cronfa amrywiol o ymgeiswyr. Sicrheir cyfweliad i bob ymgeisydd o amrywiaeth ethnig sy'n bodloni meini prawf hanfodol y rôl.
Rydym yn gweithio’n hyblyg er mwyn sicrhau y gallwch gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac i ddiwallu eich anghenion personol. Efallai fod gennych gyfrifoldebau gofalu am blant neu berthnasau sydd ag anableddau neu sy’n oedrannus, ac os felly gallwch chi fanteisio ar ein polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
Rydym yn gefnogol o’n staff ac eu credoau crefyddol, a thrwy ein system o weithio’n hyblyg gallwn ddarparu ar gyfer amser gweddi, dathlu digwyddiadau, dyddiau sanctaidd ac arferion fel ymprydio. Gallwch gymryd gwyliau neu ofyn am gael newid eich oriau gwaith er mwyn caniatáu amser i chi ymarfer eich ffydd.
Mae ein cod gwisg yn hyblyg ac mae gwisgo gemwaith neu ddillad ffydd yn cael ei groesawu, ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn ogystal â’n safonau gwasanaeth cwsmeriaid.
Rydym i gyd yn edrych yn unigryw, yn benodol o ran gemwaith, addasu'r corff a thatŵs yn cael ei ystyried yn fater o ddewis personol. Rydym yn croesawu hunanfynegiant trwy ymddangosiad personol, oni bai ei fod yn gwrthdaro â'ch gallu i gyflawni'ch swydd yn effeithiol neu eich amgylchedd gwaith penodol, neu ei fod yn cael ei ystyried yn sarhaus neu'n aflonyddu ar eraill.
Mewn digwyddiadau cymdeithasol, rydym yn sicrhau bod dewis llysieuol a diodydd ysgafn yn cael eu darparu bob amser. Mae anghenion dietegol eraill, megis Halal neu figan, yn cael eu darparu ar eich cais.
Mae ein staff LGBTQ+ yn cael eu calonogi ein bod yn cefnogi cyplau o’r un rhyw a phartneriaethau sifil; felly mae ein holl fudd-daliadau a pholisïau yn cael eu hymestyn i barau o’r un rhyw, megis hawliau pensiwn a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
Mae opsiynau ar gyfer ymddeoliad hyblyg yn rhoi’r dewis i chi ac yn helpu i gadw'r staff sy'n dymuno i barhau i weithio. Rydym yn cydnabod bod cael gweithle sy’n pontio’r cenedlaethau yn hybu arloesedd gan ei fod yn sicrhau safbwyntiau gwahanol, a gall rhannu gwybodaeth a phrofiad beirniadol ddatblygu talent newydd.
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle ac rydym eisiau sicrhau bod pawb yn gallu bod yn awthentig yn y gwaith. Mae ein drws ar agor, mae croeso i bawb.