Mae Gwireddu eich Potensial yn wasanaeth rhad ac am ddim i denantiaid Newydd i’w helpu i ddatblygu a gwneud y mwyaf o’u potensial.
Gall ein tîm Gwireddu eich Potensial eich helpu gyda phob agwedd ar ddatblygu sgiliau, ennill profiad, dod o hyd i waith, gwirfoddoli neu gyfleoedd hyfforddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae'r cymorth a ddarparwn yn cynnwys:
Dod o hyd i waith – Help i chwilio am swyddi, ceisiadau, CV, awgrymiadau cyfweliad ac ymarfer ar gyfer cyfweliadau
Gwirfoddoli – Paru chi â chyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau neu brentisiaethau
Hyfforddiant – Cefnogaeth i ddod o hyd i gyrsiau, talu am ffioedd hyfforddi, gwneud cais i goleg neu brifysgol, gwneud cais am grantiau.
Mewn gwaith – Cefnogaeth i gynnal cyflogaeth, cael y dyrchafiad hwnnw neu ddod o hyd i ail swydd.