Safon Ansawdd Tai Cymru
Cyflwynwyd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yn 2002 ac fe’i crëwyd er mwyn sicrhau bod y tai cymdeithasol i gyd yn ateb gofynion cyffredin, waeth pwy yw’r landlord.
Mae’r safon yn amcanu i sicrhau bod y cartrefi i gyd:
- mewn cyflwr da
- yn ddiogel a saff
- wedi eu gwresogi’n ddigonol, yn effeithlon o ran defnyddio tanwydd, ac wedi eu hinswleiddio’n dda
- yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern
- wedi eu lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
- yn cwrdd ag anghenion penodol yr aelwyd (e.e. anghenion pobl ag anableddau penodol) cyn belled ag y bo modd
Mae cydymffurfiaeth Newydd ar 31ain Mawrth 2023 fel a ganlyn:
Meini prawf | % stoc sy’n cydymffurfio ar hyn o bryd |
Toeon a chydrannau cysylltiedig | 100% |
Ffenestri | 100% |
Drysau allanol | 100% |
Ceginau | 100% |
Ystafelloedd ymolchi | 100% |
Graddfa ynni (SAP ≥ 65) | 100% |
Systemau gwres canolog | 100% |
Systemau trydanol | 100% |
Synwyryddion mwg sy’n rhedeg oddi ar y prif gyflenwad trydan | 100% |
Gerddi a storfeydd allanol hyd at ac yn cynnwys ffin yr eiddo | 100% |
Pob cydran | 100% |
|
|
Mae gan Newydd, fodd bynnag, rai methiannau derbyniol o fewn ei stoc tai gyda golwg ar rai o feini prawf WHQS.
Diffinnir methiant derbyniol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r eiddo nad yw’n cydymffurfio â WHQS am un o’r rhesymau a ganlyn:
Dewis y preswylydd – Bydd Newydd yn cymhwyso’r math hwn o fethiant derbyniol pan a lle bynnag mae’r tenant yn gwneud cais amdano, e.e. mae tenant wedi gwrthod cael cegin newydd, peth sydd angen ei wneud er mwyn cydymffurfio â WHQS.
Amseriad y gwaith - Bydd Newydd yn ystyried cymhwyso’r math hwn o fethiant derbyniol i gydran pan wneir buddsoddiad sylweddol mewn eiddo yn y tymor byr, neu pan mae’r tenant presennol yn gwneud cais cyfredol am grant addasiadau ffisegol a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar y gydran sydd dan ystyriaeth, e.e. mae’r ystafell ymolchi bresennol angen cawod dros y bath ond ar hyn o bryd mae’r tenant yn gwneud cais am gaban cawod i bobl anabl drwy’r broses Grant Addasiadau Ffisegol. Ni fyddai gosod cawod dros y bath yn yr ystafell ymolchi bresennol, yna gosod caban cawod mynediad gwastad newydd yn ei lle yn fuan wedyn, yn ddefnydd effeithiol o adnoddau.
Cost y gwaith – Bydd Newydd yn cymhwyso’r math hwn o fethiant derbyniol i gydran mewn achos lle byddai’r gwaith yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol i gost gros blynyddol y math yna o gydran, ac yn peryglu’r gallu i fuddsoddi yn unol â lefelau cynllun buddsoddi blynyddol Newydd, e.e. mae’r gegin bresennol yn rhy fach i gynnwys yr holl unedau cegin sydd eu hangen, ond gellid tynnu wal i lawr i greu cegin fwy. Ystyrir nad yw gwaith o’r fath yn gost-effeithlon gan y byddai hyn yn peryglu gallu Newydd i wneud gwaith arall i eiddo arall.
Cyfyngiad ffisegol – Bydd Newydd yn cymhwyso’r math hwn o fethiant derbyniol pan a ble bynnag y’i hystyrir yn anymarferol i gwrdd â’r angen cydran oherwydd cyfyngiadau maint a gofod, cyfyngiadau ardal gadwraeth, neu anghenion meddygol unigolyn, e.e. mae cegin yn rhy fach i gynnwys y nifer cywir o gypyrddau ac nid oes modd gwneud y gegin yn fwy heb amharu ar ardaloedd eraill yr eiddo.
Ar hyn o bryd mae gan Newydd y nifer canlynol o fethiannau derbyniol o fewn ei stoc tai (nodwch fod mwy nag un math o fethiant derbyniol mewn ambell eiddo):
Math o fethiant derbyniol | Cyfanswm sy’n bodoli o fewn y stoc tai |
Dewis y preswylydd | 152 |
Amseriad y gwaith | 516 |
Cost y gwaith | 192 |
Cyfyngiadau ffisegol | 246 |
Pob methiant derbyniol | 1106 |