Cymorth Digidol
Rydym ni’n helpu’n tenantiaid a’r gymuned ehangach i ennill sgiliau newydd mewn defnyddio cyfrifiaduron a thabledi, a defnyddio gwasanaethau fel siopa ar-lein, chwilio am swydd, a chyrchu eich cyfrif Porth y Llywodraeth neu fancio ar-lein. Gallwn hefyd eich helpu i ennill cymwysterau sgiliau cyfrifiadurol.
Mae Newydd yn cynnig benthyciadau cyfnod byr o offer digidol gan gynnwys tabledi, gliniaduron a seinyddion clyfar er mwyn helpu tenantiaid i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol. Rydym yn cefnogi ein partneriaid i sefydlu a darparu cynlluniau benthyg tabledi cydgysylltiedig er mwyn cynyddu’r cynnig o offer a mynediad digidol i’r gymuned ehangach.
Mae Newydd hefyd yn darparu prosiect cymorth ar-lein drwy ein ‘Ystafell Ddosbarth Cymorth Digidol’. Os hoffech chi gael mynediad i’r ystafell ddosbarth, defnyddiwch y cod hwn i ymuno: qp4dgmc. Defnyddir yr ystafell ddosbarth i ddatblygu hyder a medrusrwydd tenantiaid mewn pynciau megis:
- Deall eich dyfais
- Rhwydweithio cymdeithasol
- Sut i wneud galwad gan ddefnyddio What’s App, Facetime, Zoom, ayyb.
- Iechyd digidol
- Gwasanaethau’r llywodraeth e.e. Credyd Cynhwysol
- Seinyddion clyfar a chynorthwywyr llais
- Hobïau a diddordebau
Darperir hefyd gefnogaeth hyfforddiant rhithiol 1-i-1 gan ddefnyddio platfformau cynadledda fideo er mwyn cyfathrebu’n effeithiol ac arwain gam wrth gam ar ymholiadau digidol.