Cynllun corfforaethol
Mae gan Grŵp Newydd Cyf. weledigaeth a rennir i ddarparu tai fforddiadwy a chefnogi cymunedau cynaliadwy gyda gwasanaethau rhagorol i denantiaid a chwsmeriaid. Mae Cymdeithas Tai Newydd (1974) Cyf. yn gymdeithas tai elusennol sy’n cynnig 3,000 o dai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu i bobl lle mae’r angen ar ei fwyaf ledled de a chanolbarth Cymru.
Mae dau aelod arall o’r Grŵp, Newydd Maintenance Ltd a Living Quarters (Lettings & Sales) Wales Ltd, yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw a gosod/gwerthu i’r Grŵp.
Mae Grŵp Newydd eisiau cefnogi ein cymunedau i dyfu mewn amgylchedd cynaliadwy a diogel. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Bwrdd wedi datblygu’r Cynllun Corfforaethol hwn i yrru’r sefydliad yn ei flaen a sicrhau ein bod yn cydweithio er mwyn cwrdd ag anghenion ein tenantiaid a’n cymunedau, gan gyflawni amcanion polisi ein partneriaid bob cam o’r ffordd.
Mae’r argyfwng tai yn parhau - mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon-isel newydd erbyn diwedd tymor y llywodraeth bresennol. Mae Grŵp Newydd yn anelu i gyfrannu tuag at y nod strategol hwn drwy ddarparu 600 o gartrefi carbon-isel dros gyfnod y cynllun corfforaethol ledled y prif ardaloedd awdurdodau lleol yr ydym yn gweithredu ynddynt.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn parhau – mae Newydd eisiau gwneud ei rhan mewn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac mae’n anelu i gefnogi Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio er mwyn gostwng allyriadau carbon ledled ein stoc.
Mae’r pandemig COVID-19 yn parhau – mae Newydd eisiau cefnogi tenantiaid a chymunedau i adfer o effeithiau’r pandemig i fyw unwaith eto mewn cymunedau ffyniannus â dyfodol disglair.
Mae diogelwch tenantiaid, safon y stoc tai a gwerth am arian yn parhau i fod yn flaenoriaethau uchel ar gyfer y Bwrdd. Mae Newydd yn anelu i sicrhau bod tenantiaid yn byw mewn tai diogel, fforddiadwy a safonol, ac yn derbyn gwasanaethau landlord rhagorol.
Mae cyflwyno strategaeth hirdymor yn dangos ein bod yn ymwybodol o raddfa’r heriau rydym yn eu hwynebu, o ôl-osod dros dair mil o dai i fod yn garbon-sero a chwrdd â safonau diogelwch adeiladu uwch, i archwilio ffyrdd newydd o godi’r cyllid sylweddol sydd ei angen er mwyn parhau i adeiladu mwy o’r mathau iawn o gartrefi yn y lleoedd iawn.
Mae’r Cynllun Corfforaethol hwn yn gosod allan y siwrnai hon dros y 5 mlynedd nesaf, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer siwrnai llawer hirach dros y 30 neu 50 mlynedd nesaf, ac yn sicrhau bod Grŵp Newydd ar y trywydd iawn er mwyn parhau i gefnogi ein cymunedau i dyfu mewn amgylchedd cynaliadwy a diogel.
I ddarllen mwy am ein Cynllun Corfforaethol: https://corporateplan.newydd.co.uk