Awgrymiadau arbed ynni

Ledled y DU, gellid arbed bron £3 biliwn bob blwyddyn mewn biliau ynni. Efallai bydd ein hawgrymiadau da isod yn eich helpu i ddechrau lleihau eich biliau.

  • Diffoddwch eich teledu a’ch cyfrifiadur yn lle eu gadael yn segur. Yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC), gallai hyn arbed £30 y flwyddyn i’r cartref cyffredin.
  • Peidiwch â berwi mwy o ddŵr nag sydd angen arnoch ar gyfer eich paned o de. Mae DECC yn honni y gallai hyn arbed hyd at £25 y flwyddyn.
  • Yn y misoedd poethach, rhowch y dillad allan i sychu yn naturiol yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad neu droi’r gwres i fyny.
  • Diffoddwch y goleuadau mewn ystafelloedd gwag newidiwch y bylbiau am rai sy’n arbed egni.
  • Os oes modd, dewiswch gawod yn lle bath.
  • Peidiwch â defnyddio y peiriant golchi heblaw bod gennych lwyth llawn i’w olchi. Hefyd ceisiwch olchi ar dymheredd isel.
  • Mae oergell neu rewgell lawnach yn fwy effeithiol nag un wag felly cadwch hi’n llawn. Pan fydd y bwyd a’r ddiod yn dechrau diflannu, llenwch y lle â bagiau plastig yn llawn papurau newydd.
  • Sicrhewch fod drysau a ffenestri wedi’u cau yn sownd pan fydd y gwres ymlaen. Gyda’r nos, tynnwch y llenni a defnyddiwch rimynnau drafft drws i arbed mwy o egni.

Gostyngiad Cartref Cynnes

Gallech chi dderbyn gostyngiad o £140 ar eich bil trydan gyda Chynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu yn syth i chi – yn hytrach, mae’n ostyngiad ar eich bil trydan, rhwng Hydref a Mawrth.