Gwella eich cartref
Cyn i chi wneud unrhyw addasiadau i’ch cartref, mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom i gael caniatâd.
Mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw eich cartref yn cael ei ddifrodi na’i wneud yn anniogel. Mewn rhai achosion bydd hefyd angen i chi gael Caniatâd Cynllunio neu Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu gan yr awdurdod lleol. Diffinnir “addasiad” fel unrhyw beth sy’n cael ei ychwanegu i neu ei newid yn yr eiddo neu’r cyflenwad nwy, trydan neu ddŵr.
Dyma esiamplau o’r addasiadau mwyaf cyffredin:
- Symud/cael gwared ag unedau neu ddrysau wedi’u gosod
- Addasiadau i’r gwres canolog
- Plymio mewn peiriannau golchi neu declynnau eraill
- Adeiladu patios
- Taro waliau i lawr
- Ffenestri gwydr dwbl
- Gosod tân nwy neu adeiladu lle tân amlwg
- Portshys caeedig
- Estyniadau
- Ffensio ychwanegol
- Dysglau lloeren
- Gosod switshys golau gwahanol
- Ychwanegu neu symud pwyntiau trydan
Mae’n rhaid i holl waith trydanol gael ei gwblhau gan drydanwr cymwys ac mae’n rhaid darparu tystysgrif diogelwch. Ni fydd eich rhent yn codi o ganlyniad i unrhyw welliannau a wnewch, ond chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw. Os nad ydych yn cael caniatâd, efallai y bydd rhaid i chi dalu i atgyweirio eich cartref, neu ei ddychwelyd i fel yr oedd.
Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar yr eiddo nes ein bod wedi rhoi caniatâd i chi wneud hynny. Bydd yn rhaid i chi lenwi y ffurflen yma.
Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen, a fyddech cystal â'i dychwelyd at ein Tîm Asedau a Chynaliadwyedd drwy'r post i Gymdeithas Tai Newydd, 5 Village Way, Tongwynlais, CF15 7NE neu drwy e-bost i enquiries@newydd.co.uk. Byddwn yn ymateb i'ch cais o fewn 30 diwrnod o dderbyn y ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn.