Yswiriant
Nid yw Cymdeithas Tai Newydd yn darparu yswiriant cynnwys fel rhan o'ch cytundeb ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried polisi yswiriant cynnwys cartref er mwyn eich amddiffyn rhag unrhyw ddifrod neu golled sy'n digwydd yn eich cartref.
Mae yswiriant cynnwys wedi'i gynllunio i helpu amddiffyn eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae gwastad risg y gall eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn, felly gall yswiriant cynnwys cartref helpu i ddarparu tawelwch meddwl.
Er mwyn eich helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys cartref yn iawn i chi, rydym wedi ymuno â Thistle Tenant Risks, a Royal & Sun Alliance Insurance Ltd sy'n darparu'r Cynllun Yswiriant Cynnwys fy Nghartref, polisi Yswiriant Cynnwys Tenantiaid arbenigol.
Gall y cynllun yma gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref gan gynnwys eitemau fel dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau, ac addurniadau.
Sut fedrai gael rhagor o wybodaeth?
- Gofynnwch i'ch swyddog tai am becyn cais
- Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288
Mae'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Chymuned Tai Cymunedol yn Gynrychiolwyr Penodedig o Thistle Insurance Services Ltd. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Lloyd's Broker. Wedi'i gofrestru yn Lloegr o dan Rhif 00338645. Swyddfa gofrestredig: Rossington’s Business Park, West Carr Road, Retford, Swydd Nottingham, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o'r Grŵp PIB.