Tipio anghyfreithlon
Beth yw e?
“Tipio anghyfreithlon yw gollwng unrhyw wastraff ar dir sydd heb drwydded i’w dderbyn,” yn ôl Keep Britain Tidy. Mae tipio yn anghyfreithlon dim ots maint y gwastraff, o fagiau sbwriel ac oergelloedd i dryciau llawn gwastraff adeiladu. Mae tipio anghyfreithlon yn costio Cymru tua £2 miliwn y flwyddyn.
A fedrai rhoi gwybod i rywun?
Wrth gwrs. Os welwch chi rywun yn tipio’n anghyfreithlon, fedrwch gysylltu â’ch awdurdod lleol. Drwy wneud hyn, mae’r gwastraff gallu cael ei glirio’n ddiogel, ac mae’n bosib caiff y troseddwr ei ddal a’i erlyn. Os yn bosib, ceisiwch nodi gymaint o fanylion â phosib, megis beth sy’n cael ei dipio, faint, dyddiad, amser, lleoliad, pwy a rhifau cofrestri ceir.
Beth yw’r gosb am dipio?
Mae’n drosedd o dan Adran 3 o’r Ddeddf diogelu’r Amgylchedd 1990, ac mae’r drosedd gallu cael ei chosbi â dirwy hyd at £50,000 a chyfnod yn y carchar. Llynedd yng Nghymru, cafodd 95% o droseddwyr eu herlyn.
Beth ddylwn i'w wneud gyda’m heitemau gwastraff mawr?
Dylai eitemau mawr megis dodrefn a chyfarpar coginio cael ei chludo i’ch canolfan ailgylchu lleol. Os nad oes mod di chi wneud hyn, mae y rhan fwyf o gynghorau yn darparu gwasanaeth casglu eitemau mawr. Cysylltwch â’r cyngor i drefnu casgliad. Cofiwch, os ydych yn talu i rywun glirio’ch gwastraff, ac y maen nhw yn tipio’n anghyfreithlon, fedrwch chi dal cael eich erlyn. Sicrhewch eu bod nhw’n gludwyr gwastraff cofrestredig.
Sut fedrai reportio tipio anghyfreithlon?
Fedrwch wneud hyn ar-lein yma:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Fedrwch hefyd ffonio’r heddlu (dim argyfwng) ar 101, Crimestoppers ar 0800 555 111 neu Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0800 807 060.