Tuag at ein gweledigaeth

Erbyn 2027 byddwn wedi:

Twf

  • Ychwanegu 600 o dai ar rent cymdeithasol
  • Ystyried darpariaeth rhaglen grant effeithiol ar gyfer tai nad ydynt yn gymdeithasol, a strategaeth gyllido fydd yn cefnogi’r uchelgeisiau datblygu
  • Sicrhau fod gennym ni ddigon o staff gyda’r sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau cywir
  • Darparu uchelgeisiau ein Cynllun Corfforaethol

Cynaliadwyeddd

  • Cadw bwlch wrth gefn o o leiaf 20% yn erbyn y cyfamod sicrwydd llog tynnaf
  • Cadw bwlch wrth gefn o o leiaf 5% yn erbyn y cyfamod gerio tynnaf
  • Cyllido ar gyfer 30% o warged gweithredu ar y gosodiad cyllido blynyddol
  • Cyhoeddi adroddiad sy’n arddangos ein effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu
  • Sicrhau y bydd pob cartef a adeiledir o'r newydd yn garbon niwtral ac y bydd 30% o gartrefi Newydd sy’n bodoli’n barod yn garbon niwtral
  • Dros 95% o denantiaethau yn para mwy na 3 blynedd i leihau methiant tenantiaeth
  • Dros 90% o denantiaid yn fodlon gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw

Diogel

  • Dim eiddo ag unrhyw faterion cydymffurfiaeth i’w datrys
  • 99% o waith trwsio brys wedi’i gwblhau ar amser
  • 98% o waith atgyweirio wedi’i gwblhau yn iawn y tro cyntaf
  • Heb gael unrhyw achosion adroddadwy
  • Wedi cwblhau’r holl hyfforddiant diweddaru Iechyd a Diogelwch blynyddol
  • Heb gael unrhyw dor diogelwch data
  • Heb golli unrhyw ddata tenantiaid na staff o ganlyniad i ymosodiadau seiber
  • Heb gael unrhyw ddigwyddiadau yn arwain at gyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol
  • Heb gael unrhyw dorriadau o reoliadau ariannol na rheolau sefydlog

Cefnogaeth

  • Sicrhau boddhad o dros 90% gyda thenantiaid sy’n defnyddio gwasanaethau cefnogi a gwasanaethau byw’n annibynnol
  • Sicrhau boddhad o dros 90% gyda staff rheng flaen ar gyfer y gwasanaethau cefnogi oddi wrth Cyllid, Marchnata, Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol
  • Sicrhau bod Grŵp Newydd yn cael gwobr aur Buddsoddwyr Mewn Pobl
  • Sicrhau bod Grŵp Newydd yn cael canlyniad 3* Cwmniau Gorau
  • Cynnal adolygiad strategol o ddarpariaeth cefnogi tenantiaeth
  • Llwyr weithredu diwylliant Dulliau Adferol ledled y sefydliad

Gwasanaethau ardderchog

  • Cyrraedd boddhad cyffredinol o dros 90%, gyda 60% yn “Fodlon Iawn”
  • Cynnal boddhad uchel mewn perthynas â’r tri awdurdod lleol sy’n bartneriaid allweddol i Newydd
  • Cyrraedd statws rheoleiddiol “Gwyrdd” mewn Llywodraethu a Hyfywedd Ariannol Cynnal adolygiad strategol er mwyn gwella ein dulliau ymgysylltu tenantiaid Cyrraedd boddhad o dros 80% o ran “Pa mor fodlon ydych chi bod Newydd yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arno?”
  • Cael gwobr Tai Pawb QED am gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Dod yn fwy cynrychioliadol ar lefel Bwrdd a staff