Cartrefi i'w rhentu
Mae ein eiddo ni yn fwy na waliau a ffenestri yn unig; cartrefi yw nhw, a rydym ni'n gwneud yn siwr bod pob cartref newydd rydym ni yn ei hadeiladu yn ddeniadol, eang, hygyrch ac yn ynni'n effeithlon.
Rydym ni'n gweithio'n agos gyda elusennau eraill, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ble mae'r gofyn am gartrefi ar ei huchaf. I ni, mae'n ymwneud ag adeiladu cymunedau diogel a chynaliadwy lle gall ein tenantiaid fyw eu bywydau, yn ogystal â bod yn falch o ble maent yn byw.
Costau rhent
Mae ein costau rhent wedi eu gosod yn unol â cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae cost rhent yn newid yn ôl nifer o elfenau gynnwys maint, lleoliad, oedran a math o eiddo. Efallai bydd rhai o'n cartrefi â rhent yn uwch na'r ffigyrau isod.
Mae'r tabl isod yn dangos ystod o rentau cyffredinol wythnosol sy'n gywir rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025.
Rhent cyffredinol Newydd bob wythnos 2024/25 | ||
Math o eiddo | O | I |
Rhandai un ystafell wely | £87.80 | £112.01 |
Rhandai dau ystafell wely | £101.98 | £121.80 |
Tŷ dwy ystafell wely | £109.19 | £142.79 |
Tŷ tair ystafell wely | £117.18 | £151.90 |
Tŷ pedair ystafell wely | £144.97 | £169.94 |
Llety byw'n annibynnol | ||
Bedsit | £ 88.45 | £ 88.45 |
Fflat un ystafelly wely | £ 90.41 | £ 106.28 |
Fflat dwy ystafell wely | £ 111.89 | £ 111.89 |