Cartrefi ar werth

Mae prynu cartref eich hunain yn medru bod yn frwydr anodd i nifer o bobl, gyda phrisiau tai a’r blaendal sydd ei angen yn parhau i godi. Fodd bynnag, mae yna olau ar ben draw’r twnnel a’r golau hwnnw yw perchentyaeth cost isel, neu rannu ecwiti, sy’n cynnig y cyfle i brynwyr tro cyntaf i brynu eiddo am bris sy’n is na gwerth y farchnad.

O dan berchentyaeth cost isel, mae prynwyr yn prynu cyfran ecwiti o 70% mewn eiddo ac rydym ni’n cadw’r 30% arall. Gall hyn olygu mai dim ond blaendal o 5% i 15% y byddwch ei angen ar gyfer y gyfran ecwiti o 70%, a gallai hyn hefyd ostwng faint o forgais y byddwch ei angen i brynu’r eiddo.  

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw ad-daliadau i ni hyd nes y byddwch yn gwerthu’r eiddo, ond mae gennych yr opsiwn o ad-dalu’r gyfran o 30% i ni ar unrhyw adeg, naill ai yn llwyr neu mewn camau a gytunwyd arnynt (yn ddibynnol ar amodau’r dogfennau yr ydych yn arwyddo gyda ni pan gwblheir eich pwrcas).  

Sut i wneud cais mewn 7 cam

Cam 1 - Y cais
Cysylltwch â'r cyngor a chwblhewch ei ffurflen gofrestru perchentyaeth cost isel. Yna, bydd rhywun yn cysylltu â chi am rhagor o wybodaeth. 

Cam 2 - Derbyn y cais
Unwaith mae'r cyngor wedi cwblhau eu arolygiadau, bydden ni'n derbyn eich cais ac yn gwneud rhagor o arolygiadau i sicrhau bod yr eiddo yn fforddiadwy i chi. Byddem yn cysylltu â chi i gadarnhau eich bod wedi bod yn llwyddianus. 

Cam 3 - Cynghorydd morgais
Unwaith y byddwch wedi derbyn cadarnhad gennym ni, rydym yn cynghori i apwyntio cynghorydd morgais. Bydd cynghorydd yn eich cefnogi chi drwy'r broses o wneud cais am forgais. 

Cam 4 - Cyfreithiwr
Bydd angen i chi apwyntio cyfreithiwr a rhoi ei enw neu henw, a manylion cyswllt, i ni. Bydd ein Swyddog Cyfreithiol wedyn yn cysylltu â nhw ar ein rhan ni i ateb unrhyw gwestiynau. 

Cam 5 - Prisio ac yswiriant adeiladu
Bydd eich darparwr morgais yn prisio eich eiddo a'i werth ar y farchnad. Bydd y cynnig morgais terfynol yn cael ei seilio ar y prisiad hwn. Cyn i chi gyfnewid bydd angen i chi fod ag yswiriant adeiladu wedi ei drefnu ac mewn grym.  Bydd eich cyfreithiwr yn medru eich cynghori ymhellach. 

Cam 6 - Cyfnewid a chwblhau
Wedi i'r holl wiriadau gael eu cwblhau, a'ch cynnig morgais gael ei dderbyn, bydd eich cyfreithiwr a'n swyddog cyfreithiol ni yn cytuno ar ddyddiadau cyfnewid a chwblhau. Byddwch yn medru casglu'r allweddi i'ch cartref newydd ar y diwrnod cwblhau. 

Cam 7 - Croeso i'ch cartref newydd
Y cam olaf bydd i symud i fewn a dechrau creu atgofion gwych yn eich cartref cyntaf. 

Am rhagor o wybodaeth am ein cynllun perchentyaeth cost isel, gan gynnwys cymhwysedd, gwneud cais, cost, ôl-ofal a sut i werthu eich cartref; lawrlwythwch ein canllaw yma.