Gerddi Glofa Castellau

Beddau

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad £3.2 miliwn hwn ym mis Rhagfyr 2019.

Mae'r datblygiad yma, mewn partneriaeth a Chyngor Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys 18 cartref am rent fforddiadwy ar Ffordd Castellau ym mhentref Beddau. Mae'n cynnwys 8 fflat un ystafell wely, 4 tŷ dwy ystafell wely, 4 tŷ tair ystafell wely a 2 dŷ pedair ystafell wely.

Dechreuodd Encon Construction Ltd weithio ar y safle ym mis Mehefin 2021. 

Mewn ymateb i ddymuniad Llywodraeth Cymru i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern yn eu rhaglenni datblygu, mi wnaethon ddefnyddio system Gweithgynhyrchu Oddi ar y Safle ac yn gweithio gyda ffrâm bren Castleoak, gyda’r nod o wneud y rhan fwyaf o’r gwaith o adeiladu’r unedau oddi ar y safle gan ddefnyddio dull ffrâm bren, Paneli Wedi’u Hinswleiddio’n Strwythurol (SIPs).

Archwiliwch pob cartref