Swyddi
I weld ein swyddi gwag cyfredol cliciwch yma.
Cliciwch y ddolen uchod i weld ein swyddi gwag cyfredol
Rydyn ni mor falch eich bod eisiau ymuno â ni!
Os mai eich swydd gyntaf ydy hon neu os ydych yn dychwelyd i weithio ar ôl egwyl, yn newid cyfeiriad gyrfa neu yn cymryd cam i fyny ar eich llwybr gyrfa, yna mae eich cychwyn newydd yn gychwyn Newydd.
Mae digon o wybodaeth yn y tudalennau yma i’ch helpu i ddeall rhagor amdanom ni a sut brofiad ydy gweithio yma. Mae’r cyfan ar gael wrth gyffwrdd y botwm!
Rydyn ni’n optimistaidd ac yn uchelgeisiol am ein dyfodol. Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn am y cyfleoedd sy’n ein wynebu ac rydyn ni eisiau pobl sy’n rhannu ein brwdfrydedd i ymuno â’n tîm.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wasanaethau ardderchog i gwsmeriaid ac rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar herio’r status quo i wella pob agwedd o’r hyn a wnawn a sut y gwawn hynny. Rydyn ni wedi’n gyrru gan waith tîm a’r awydd i gysylltu perfformiad ein cwmni gyda chanlyniadau sydd yn gwir gyffwrdd bywydau pobl yn feunyddiol. Os ydych yn llwyddiannus, fe fydd eich nodweddion personol yn gwneud i hynny ddigwydd ac fe fyddan nhw’n cael eu gwerthfawrogi ochr yn ochr â’ch gwybodaeth a’ch profiad technegol.
Mae ein hegwyddorion gwaith o ‘hysbysu, cynnwys a gwella’ yn berthnasol i bopeth a wnawn. Trwy gyflenwi’r ymrwymiadau yma rydyn ni’n sicrhau bod Newydd yn lle gwych i weithio ynddo, ein bod yn cynnig manteision ardderchog, bod yma ysbryd tîm cryf a’n bod yn falch o ddweud ein bod yn gweithio yma. Mewn arolwg staff diweddar, roedd y rhan fwyaf o’r staff yn teimlo eu bod yn gweithio i gorff lle mae pawb eisiau gwneud eu gorau bob tro a lle mae’r staff yn teimlo’n ymroddedig i’w gwaith. Os ydy ein staff yn hapus, yna rydyn ni’n hapus!
Os ydy’r cyfleoedd y gallwn ni eu cynnig i chi yn bersonol ac yn broffesiynol yn eich ysgogi, yna rydyn ni’n edrych ymlaen i’ch gweld yn ymuno â ni.
Efallai nad oes gennym y cyfleoedd ar hyn o bryd sy’n cydweddu gyda’ch diddordebau a’ch sgiliau, ond edrychwch ar ein tudalen swyddi gwag cyfredol, ein tudalen Facebook a Linked-in.
Sut brofiad yw gweithio i Newydd?
Gwyliwch y fideo isod er mwyn gweld y merched arbennig yn Newydd sy’n gweithio yn ein hadrannau cynnal a chadw, datblygu ac adfywio. Maen nhw’n rhannu straeon sy’n ysbrydoli a chyngor gwerthfawr, ac yn herio stereoteipiau yn y diwydiant adeiladu.