Byw'n annibynnol
Mae gan Newydd nifer o fflatiau a stiwdios byw’n annibynnol ym Mro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf. Mae’r cynlluniau yma wedi’u dylunio ar gyfer pobl sengl a chyplau 60 oed a throsodd, neu i’r rhai dros 55 oed sydd wedi’u cofrestru’n anabl neu yn derbyn meddyginiaeth parhaol am salwch. Mae fflatiau a stiwdios byw’n annibynnol yn ddewis tai delfrydol i’r rhai sydd eisiau amgylchedd diogel wedi’i deilwra i’w anghenion unigol, ond sydd eisiau cadw eu hannibyniaeth.
Swyddogion Byw'n Annibynnol
Mae gan rai o’n cynlluniau byw yn annibynnol Swyddog Byw’n Annibynnol sydd fel rheol ar y safle yn ystod oriau swyddfa, Llun i Gwener. Maen nhw’n cynnal gwiriadau dyddiol ar denantiaid (sydd yn gofyn am y gwasanaeth yma) ac maen nhw’n gyfrifol am reolaeth eu cynllun o ddydd i ddydd. Gall y Swyddog Byw’n Annibynnol roi cyngor sylfaenol ar fudd-daliadau lles a chyllidebu, cyngor ar rhent a chymorth gydag ymddygiad gwrth gymdeithasol neu broblemau niwsans cymdogion. Dydy hi ddim yn gyfrifoldeb arnyn nhw i ddarparu gofal personol i denantiaid. Ond maen nhw’n gallu rhoi cyngor a chyfeirio tenantiaid at wasanaethau gofal personol ac asiantaethau cymorth arbenigol eraill sydd ar gael yn lleol. Gall aelodau o’r teulu sydd yn ymweld ag sydd ddim yn byw yn lleol ddefnyddio'r cyfleuster ystafell ymwelwyr am ffi bychan.
Mae gan y Swyddog Byw’n Annibynnol allwedd meistr i gael mynediad i’r fflatiau a’r stiwdios yn eu cynllun pe bai yna argyfwng. Mae yna hefyd systemau cordyn tynnu brys ym mhob ardal gymunedol a fflatiau/stiwdios i roi tawelwch meddwl ychwanegol.
Does yna ddim Swyddog Byw’n Annibynnol yn gweithio ar y safle mewn rhai o’n cynlluniau byw’n annibynnol ond mae yna system cordyn tynnu brys yn y fflatiau unigol. Mae pob cordyn tynnu brys yn gysylltiedig gyda Chanolfan Gyswllt sydd yn agored 24 awr y dydd, bob dydd.
System mynediad drws
I sicrhau bod ein preswylwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, mae yna system mynediad drws yn y rhan fwyaf o’n cynlluniau. Mae gan rai cynlluniau lifftiau neu lifftiau grisiau hefyd fel bod mynediad yn haws o amgylch y cynllun. Rydym hefyd yn gweithio'n glos gyda grwpiau tenantiaid sydd, gyda’r Swyddogion Byw’n Annibynnol yn helpu i annog gweithgareddau cymdeithasol a threfnu tripiau.
Am fwy o wybodaeth a/neu i fynegi diddordeb mewn fflat byw’n annibynnol cysylltwch â ni.