Symud tŷ

Cyn symud mas mae'n rhaid i chi roi o leiaf pedair wythnos o rybudd i ni, mae hyn yn eich cytundeb. Mae'n rhaid i chi hefyd roi cyfeiriad anfon-ymlaen i ni. 

Gallwch roi rhybudd yn syml iawn drwy lenwi'r ffurflen yng nghefn y llyfryn Symud Tŷ yma. Rhaid i'r ffurflen cael ei lenwi gan y tenant, neu ar ran y tenant gan ei berthynas agosaf neu ei gynrychiolydd personol. Os ydych angen cymorth, cysylltwch â'r Swyddog Tai. 

Bydd Newydd yn trefnu archwiliad o'r eiddo cyn ddiwedd eich cytundeb. Asesir cyflwr yr eiddo ac unrhyw waith trwsio sydd heb ei wneud, a chodir tâl amdano.

Cewch £150 os ydych yn gadael eich cartref mewn cyflwr ardderchog pan fyddwch yn symud allan.

Am ragor o fanylion am y broses o symud ac am y Ffurflen Terfynu'ch Contract, lawrlwythwch ein llyfryn Symud Tŷ isod.