Mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg, rydym wedi cyflenwi datblygiad £3 miliwn uchelgeisiol i ddarparu cartrefi fforddiadwy sydd eu hangen yn fawr a gofod cymunedol i bobl leol.
Gan gadw blaen yr hen eglwys, mae WK Plasterers Ltd wedi adeiladu neuadd gymunedol amlbwrpas a 14 fflat un- a dwy-ystafell wely am rent fforddiadwy ar ran Newydd.
Dewiswyd Newydd gan y Cyngor fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer y datblygiad hwn nôl yn 2017. Ers hynny mae’r gymdeithas tai wedi bod yn gweithio gyda thrigolion lleol, y Cyngor a sefydliadau cymunedol i addasu’r cynnig i gwrdd ag anghenion lleol.
Mae'r datblygiad, a gymeradwywyd gan Gyngor Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2018, yn darparu cartrefi fforddiadwy sydd eu hangen yn fawr. Mae polisi gosod lleol mewn grym, gan roi blaenoriaeth i bobl sy’n gweithio ac yn byw yn yr ardal ar hyn o bryd. Roedd y fflatiau wedi'u gosod i dentantiaid ym mis hydref 2020.
Mae’r cyfleuster cymunedol 368-medr-sgwâr bellach wedi'i brydlesu gan GVS ac yn cynnig dwy neuadd amlbwrpas, swyddfeydd ac ardal gegin newydd.