Gwneud cais am gartref
Fel cymdeithas tai, rydym yn cynnig cartrefi i bobl mewn angen, sy’n fwyaf addas ar gyfer pob eiddo penodol. Bydd y cyfnod o amser y bydd yn rhaid i chi aros cyn i eiddo addas ddod ar gael yn amrywio, gan ddibynnu ar eich anghenion a lle hoffech chi fyw.
Yn gyntaf mae angen i chi ddewis ym mha sir yr hoffech chi fyw. Wedi i chi benderfynu ar sir, byddwch angen cofrestru gyda’r Gofrestr Tai Cyffredin perthnasol gan nad oes gan Newydd restr aros ein hunain. Yn lle, rydym yn derbyn enwebiadau gan y cyngor ar gyfer ein heiddo gwag. Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Gofrestr Tai Cyffredin, neu maen nhw ar fin symud tuag at ddefnyddio un.
Mae’r Gofrestr Tai Cyffredin yn rhestr o bobl sydd wedi gwneud cais am gartref o fewn ardal benodol (fel arfer ardal awdurdod lleol). Defnyddir y rhestr gan gymdeithasau tai a chan y cyngor yn yr ardal honno i bennu cartrefi i bobl sydd â’r angen fwyaf.
Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer tai ar sail asesiad o angen am dŷ. Y mwyaf hyblyg ydych chi o ran eich dewis o lety a’r ardal yr ydych chi’n barod i fyw ynddi, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn llwyddiannus wrth wneud cynnig am eiddo. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwarantu y cewch gynnig unrhyw lety.
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf Gofrestr Tai Cyffredin a gallwch ddod o hyd i wybodaeth am hynny ac am opsiynau tai eraill ar eu gwefan CeisioCartref.
Enw’r Gofrestr Tai Cyffredin ym Mro Morgannwg yw Homes4U a gellir gweld hysbysebion ar gyfer eiddo gwag ym Mro Morgannwg ar y wefan Homes4U.
Mae Cynllun Dyraniadau Tai Cyffredin Cyngor Sir Powys yma.
Wedi i chi gofrestru ar y Gofrestr Tai Cyffredin bydd angen i chi gynnig am eiddo gwag. Caiff y rhain eu hysbysebu mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae’n dibynnu ar ba awdurdod lleol rydych chi’n ei ddewis.
Os hoffech chi wybod mwy am sut allwch chi gynnig am eiddo Newydd, cysylltwch â ni ar ymholiadau@newydd.co.uk.