Lesddeiliaid
Eich les
Mae’ch les yn ddogfen gyfreithiol gymhleth. Mae’n gontract rhyngoch chi a Chymdeithas Tai Newydd sy’n nodi hawliau a rhwymedigaethau’r ddwy ochr a’r drefn y bydd rhaid ichi ei dilyn os byddwch, er enghraifft, am werthu eich cartref, ei isosod neu wneud gwelliannau iddo.
Mae’ch les yn fath o gontract sy’n caniatáu ichi fyw yn eich cartref am gyfnod penodol. Yn aml, y cyfnod hwn yw 125 mlynedd o ddyddiad y gwerthiant cyntaf a’r enw arno yw tymor.
Os prynoch eich cartref ar y farchnad agored, bydd y gwerthwr wedi trosglwyddo’r holl delerau ac amodau ichi yn rhan o’r broses werthu.