Gwerthu'ch cartref
Nid oes gan Newydd unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol i brynu’ch cartref yn ôl gennych, ond byddwn yn ystyried pob cais i wneud hynny. Mewn rhai achosion, mae’r les yn gofyn bod Newydd yn cael y cynnig cyntaf pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref. Os ydych yn ystyried gwerthu’ch cartref, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.
Nodwch, ar gyfer unrhyw geisiadau am becynnau gwerthu gan gyfreithwyr mewn perthynas â gwerthu eiddo lesddaliadol, bod ffi weinyddol o £220.00 plws TAW am lunio a chyhoeddi’r pecyn gwybodaeth. Bydd y Pecyn Gwerthu yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae Prynwr yn gofyn amdani er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus. Fodd bynnag, bydd unrhyw ymholiadau pellach a godir ar ôl cyhoeddi’r Pecyn Gwerthu yn codi tâl o £20 plws TAW am un ymholiad neu £100 plws TAW ar gyfer ymholiadau lluosog.
Os ydych yn prynu eiddo lesddaliadol lle mai Newydd yw’r landlord, mae ffi weinyddol o £70 plws TAW am dderbyn a chofrestru Hysbysiad Trosglwyddo gan eich cyfreithiwr, ffi o £50 plws TAW os oes angen Gweithred Cyfamod a ffi o £110 plws TAW am ddrafftio a chyhoeddi Tystysgrif Cydymffurfiaeth y Gofrestrfa Tir a fydd yn galluogi eich cyfreithwyr i gofrestru eich pryniant o'r eiddo gyda'r Gofrestrfa Tir.