Gwybodaeth am Sgwter Symudedd

Sut i Ddefnyddio a Storio Eich Cerbyd Trydan yn Ddiogel

Mae sgwteri symudedd a beiciau trydan yn dod yn fwyfwy boblogaidd. Mae'r mwyafrif yn defnyddio batris lithiwm ac yn gallu cael eu gwefru gartref. Mae'n bwysig eu storio a'u gwefru yn ddiogel i atal peryglon tân.

Awgrymiadau Diogelwch:

  • Cyn prynu, cysylltwch â ni fel y gallwn wneud archwiliadau diogelwch tân.
  • Ystyriwch gael yswiriant ar gyfer hawliadau trydydd parti ac amddiffyniad rhag lladrad neu ddifrod.
  • Peidiwch byth â storio sgwteri mewn ardaloedd cymunedol i atal rhwystrau a sicrhau bod allanfeydd brys yn aros yn glir.
  • Gosodwch larymau mwg yn yr ardal lle rydych chi'n gwefru eich cerbyd.
  • Storiwch eich cerbyd mewn sied neu garej o leiaf 6 metr i ffwrdd o'r prif adeilad pan fo modd.
  • Sicrhewch y gallwch chi gyrraedd eich cerbyd yn hawdd os yw wedi'i storio y tu allan.
  • Cynhaliwch Brawf Dyfeisiau Cludadwy (PAT) blynyddol ar eich sgwter.

Addasu eich cartref:

Os oes angen i chi wneud addasiadau i'ch cartref i storio neu wefru sgwter, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael caniatâd. Cyflwynwch 'Ffurflen Gwella’ch Cartref' cyn gwneud unrhyw newidiadau. Bydd yn rhaid i chi lenwi y ffurflen yma. E-bostiwch eich ffurflen i ymholiadau@newydd.co.uk

Gwefru eich sgwter:

  • Defnyddiwch y gwefrydd cywir a sicrhewch ei fod yn cwrdd â safonau diogelwch y DU.
  • Gadewch i'r batri oeri cyn gwefru.
  • Gwyliwch am arwyddion o fethiant batri i atal peryglon tân.
  • Dad-blygiwch unwaith y bydd wedi gwefru a pheidiwch â’i gwefru dros nos neu pan nad ydych chi gartref i atal peryglon tân.

Gwybodaeth bellach: