Paratoi Tenantiaeth

Nod y rhaglen Paratoi Tenantiaeth yw gwella sgiliau, gwybodaeth a hyder holl denantiaid Newydd er mwyn eu galluogi i gynnal tenantiaeth yn llwyddiannus.

Mae tenantiaid yn defnyddio ein hystafell ddosbarth Google ar-lein i ddysgu am:

  • Eu cytundebau tenantiaeth
  • Y gwahanol fathau o denantiaeth
  • Cyfrifoldebau’r tenant a’r landlord
  • Sut i gynnal a chadw’u heiddo
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Eu cyfrifoldebau ariannol
  • Cyllido
  • Credyd cynhwysol
  • Blaenoriaeth biliau a chynigion ynni
  • Lle i gael gafael ar gelfi ac eitemau angenrheidiol
  • Y camau sydd i’w dilyn er mwyn sefydlu cartref newydd; a’r
  • Gefnogaeth sydd ar gael yn ystod eu tenantiaeth.

Am fwy o wybodaeth, cwblhewch y ffurflen gyswllt isod os gwelwch yn dda:

Gofyn am ragor o wybodaeth