Rhybuddion am dywydd garw

Rhybuddion am dywydd garw

Nodwch os gwelwch yn dda: dan amodau tywydd garw, lle mae rhybudd o dywydd garw wedi ei roi yn lleol neu’n genedlaethol, dim ond i atgyweiriadau argyfwng y byddwn yn gallu ymateb. Dan yr amodau hyn, mae gwaith trwsio brys sydd wedi ei flaenoriaethu yn cynnwys:

  • toeau sy’n gollwng yn ddifrifol
  • pibelli wedi byrstio
  • draeniau wedi blocio
  • eich unig doiled wedi blocio
  • colli pŵer
  • colli nwy
  • colli gwres
  • colli gwresogydd troch os hwn yw’r unig beth sy’n darparu dŵr poeth
  • materion diogelwch (fel difrod i ddrysau neu ffenestri a fyddai’n atal yr eiddo rhag bod yn ddiogel)
  • difrod i’r eiddo a allai achosi perygl uniongyrchol i breswylwyr, cymdogion neu bobl sy’n mynd heibio (fel llechi to sy’n rhydd)
  • difrod i eiddo a allai achosi difrod pellach i’r eiddo

Rydym yn cydnabod, dan rai amgylchiadau, y bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i bensiynwyr a thenantiaid sy’n agored i niwed. Am fwy o wybodaeth am wahanol fathau o waith trwsio, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Yn ystod rhybudd o dywydd garw, edrychwch ar ein gwefan ac ar sianelau’r cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariad ar y sefyllfa, os gwelwch yn dda.

Paratowch ar gyfer eira a rhew

  • Cadwch olwg ar ragolygon y tywydd fel eich bod yn gwybod os oes tywydd garw i ddod.
  • Sicrhewch fod gennych gyflenwadau wrth gefn rhag ofn nad ydych yn gallu mynd i’r siopau. Mae bwydydd tun a bwydydd sych yn para am amser hir, ac mae’n syniad da i stocio prydau y gallwch eu cynhesu er mwyn i chi allu cadw’n gynnes o’r tu mewn.
  • Sicrhewch fod gennych ddigon o ddillad cynnes. Mae gwisgo llawer o haenau o ddillad yn well na gwisgo ychydig o haenau o ddillad tew.
  • Os oes gennych larwm-gofal, sicrhewch eich bod yn ei brofi trwy gychwyn galwad i’r ganolfan alwadau. Dywedwch wrthynt am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt argyfwng.

Diogelwch eich cartref

Gwiriwch fod eich system wresogi yn gweithio’n iawn, a rhowch wybod am unrhyw broblemau rydych wedi sylwi arnynt ar 0303 040 1998.

Nodwch unrhyw feysydd problemus posibl yn gynnar, fel unrhyw bibellau sy’n agored i’r elfennau. Gallwch ddiogelu’r rhain rhag rhewi drwy eu hinsiwleiddio gyda defnydd lagio.

Gallwch brynu defnydd lagio o siopau DIY lleol neu cysylltwch â Dŵr Cymru i gael pecynnau lagio a gwybodaeth bellach.

Cadwch eich gwres canolog ar wres isel i atal pibelli rhag rhewi, neu gosodwch y gwres i ddod ymlaen am o leiaf awr bob dydd os ydych yn mynd i fod i ffwrdd o gartref.

Lleolwch eich tap stop, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i’w ddefnyddio a sicrhewch ei fod yn gweithio’n iawn. Os digwydd y gwaethaf ac mae pibell ddŵr o’r prif gyflenwad yn rhewi ac yna’n byrstio, bydd angen i chi wneud yn siŵr y gallwch chi gau’r dŵr i ffwrdd yn gyflym.

Os ydych yn dod o hyd i bibell ddŵr o’r prif gyflenwad a honno wedi rhewi, dyma sut i ddatrys y mater:

  1. Os yw pibell yn gollwng, yn gyntaf rhowch bowlen o dan y man sy’n gollwng er mwyn dal y dŵr ac atal unrhyw ddifrod. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd godi unrhyw garpedi a rhoi tywelion i amsugno’r gwlybaniaeth.
  2. Diffoddwch lif y dŵr yn y brif stopfalf.
  3. Diffoddwch y bwyleri a draeniwch y dŵr o’r system drwy agor yr holl dapiau.
  4. Gallwch ddadmer yn araf unrhyw bibell sydd wedi rhewi drwy ddefnyddio sychwr gwallt neu botel dŵr twym. Cofiwch, dadmerwch o’r pen ac nid o’r canol!
  5. Cysylltwch â ni ar unwaith ar 0303 040 1998 os nad oes gennych gyflenwad dŵr o ganlyniad i bibelli sydd wedi rhewi neu fyrstio.

Am gyngor fideo ynghylch cynnal a chadw eich cartref, er enghraifft sut i waedu rheiddiadur, newid golau, delio â phibell sydd wedi blocio, a mwy, cliciwch yma.