Trosglwyddo Cartref

Trosglwyddiad (cyfnewid eich cartref) ydy’r ffordd gyflymaf o ddarganfod cartref newydd. Gallwch ymuno â Homeswapper a chwilio am drosglwyddiad eich hun.

Mae HomeSwapper yn wasanaeth sydd ar gael i denantiaid sydd eisiau trosglwyddo tŷ neu fflat unrhyw le yn y DU. Homeswapper ydy’r gwasanaeth trosglwyddo mwyaf i denantiaid cymdeithasau tai a chyngor sydd eisiau trosglwyddo cartref. Mae AM DDIM i denantiaid Newydd. Dysgwch ragor yn www.HomeSwapper.co.uk neu holwch eich Swyddog Tai.

Os ydych yn darganfod eiddo arall rhaid i chi lenwi ffurflen cydgyfnewid. Mae'r ffurflen ar gael i'w weld a'i lawrlwytho yma. Dychwelwch y ffurflen atom trwy ei hanfon trwy e-bost at enquiries@newydd.co.uk

Dyma ychydig o bwyntiau defnyddiol gan HomeSwapper i gynyddu'r tebygolrwydd o gyfnewid tŷ yn llwyddianus:

HomeSwapper: Top 10 Tips

Improving your chances

(nid yw'r adnoddau uchod ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd)

Os ydych yn cysylltu gyda Newydd fe fyddwn yn anfon y ffurflenni atoch ac yn esbonio beth i’w wneud. Fe fyddwn hefyd yn eich helpu i lenwi’r ffurflenni os ydych yn gofyn inni wneud hynny, ond mae’n bwysig bod pob cais yn cael ei wneud mewn ysgrifen. Rhaid i denantiaid sydd yn mynd trwy’r broses fod wedi byw mewn eiddo Newydd am 12 mis cyn bod yn gymwys i drosglwyddo cartref.

Rhaid i bob parti sydd yn gwneud cais am drosglwyddo gydymffurfio gyda’r canlynol:

  • Cynhelir arolygon o’r ddau eiddo dan sylw yn y cyfnewid cyn i chi symud. Rhaid cwblhau unrhyw waith trwsio a nodir yn ystor yr arolwg sydd yn gyfrifoldeb i chi cyn i’r cyfnewid ddigwydd.
  • Rhaid i chi gael cyfrif rhent clir a chyfrif ailgodi tâl/costau llys cyn i ganiatâd gael ei roi i drosglwyddo.
  • Ni ddylai fod unrhyw faterion rheoli tai heb eu datrys fel cwynion ymddygiad gwrth gymdeithasol neu niwsans sŵn yn eich erbyn.
  • Rhaid cael geirda derbyniol gan landlord y tenant arall yr ydych yn dymuno drosglwyddo â nhw (os yn berthnasol).
  • Rhaid i chi gael tenantiaeth sicr cyn gallu gwneud trosglwyddiad.

Gofyn am ragor o wybodaeth