Gweledigaeth a gwerthoedd
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw darparu tai fforddiadwy a diogel a chefnogi cymunedau cynaliadwy gyda gwasanaethau rhagorol i denantiaid a chwsmeriaid. Hwn yw ein nod, a bwriad popeth a wnawn yw dod â ni’n agosach at ei gyrraedd.
Twf
- Tyfu’r sefydliad gan o leiaf 20% o ran maint y stoc erbyn 2027
- Cefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd
- Sicrhau bod gennym ni sail cyllid cryf i gefnogi uchelgeisiau datblygu
Cynaliadwyedd
- Parhau i fod yn sefydliad sy’n ariannol hyfyw
- Gwneud cynnydd sylweddol tuag at ddatgarboneiddio ein heiddo erbyn 2050
- Sicrhau bod ein tenantiaethau yn gynaliadwy
- Sicrhau bod ein cymunedau yn gryf
- Sicrhau bod ein rhenti yn parhau’n fforddiadwy
Diogelwch
- Sicrhau bod ein holl denantiaid yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi
- Sicrhau bod ein holl ddata a data ein tenantiaid yn ddiogel
- Sicrhau bod ein cydweithwyr yn teimlo’n ddiogel wrth wneud eu gwaith
Cefnogaeth
- Cefnogi tenantiaid i fyw yn eu cartrefi
- Cefnogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaethau rhagorol
- Darparu gwybodaeth a chefnogaeth ariannol i denantiaid
- Gweithredu diwylliant dulliau adferol ledled y sefydliad
Gwasanaethau Rhagorol
- Cwrdd ag, a mynd y tu hwnt i, ddisgwyliadau ein cwsmeriaid
- Gwrando ar, ymgysylltu â, a bod yn fwy cynrychioliadol o’n tenantiaid
- Darparu gwasanaethau sy’n cefnogi awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i gwrdd â’u hamcanion
Ein Gwerthoedd
Ein gwerthoedd yw sail a sbardun y gymdeithas hon. Maent yn diffinio ein diwylliant ac yn llunio’r hyn a wnawn ond hefyd y ffordd a wnawn bethau. Craffir ar bopeth a wnawn i sicrhau ei fod yn gyson â’n gwerthoedd.
Gonest
- Rydym yn onest, yn agored ac yn deg wrth ddelio â phobl ac â sefydliadau partner
- Rydym yn parchu cyfrinachedd a’r angen i amddiffyn data sensitif
- Rydym ni am i bobl fod yn ymwybodol o’r penderfyniadau rydyn ni’n eu cymryd, ac am iddynt eu deall, ac rydym yn atebol am ein gweithredoedd
- Rydym yn cyflawni hyn trwy hysbysu ein rhanddeiliaid yn gyson, yn rheolaidd ac yn llawn
Galluogi
- Mae ein gwasanaethau yn grymuso ein tenantiaid i fedru cynnal eu tenantiaethau, a helpu eu cymunedau i ddatblygu a thyfu
- Rydym yn anelu i alluogi ein staff i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallan nhw ac i dyfu a datblygu eu gyrfaoedd
- Rydym yn anelu i alluogi ein rhanddeiliaid i ddarparu eu huchelgeisiau
Arloesol
- Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn
- Rydym yn addasu ac yn ymateb yn gyflym, ac yn cymryd pob cyfle i ddysgu o brofiad
- Rydym yn ymddiried yn ein staff ac yn annog syniadau newydd, gan alluogi staff i geisio gwella gwasanaethau
Caredig
- Rydym yn sylwi pan mae pobl yn dioddef ac yn cymryd camau i helpu
- Rydym eisiau helpu ein gilydd, tenantiaid a chymunedau
- Rydym yn gwrando ar beth sydd gan bawb i’w ddweud
- Rydym yn garedig
Ffocws ar bobl
- Rydym yn cydnabod ac yn canmol perfformiad da
- Rydym yn ymgysylltu â, gwrando ar ac yn dysgu wrth staff, tenantiaid a rhanddeiliaid
- Rydym yn cofleidio amrywiaeth a chynhwysiant