Ein Cartrefi

Mae Newydd yn gweithio mewn partneriaeth agos ag elusennau eraill, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r bobl y mae angen tai arnynt fwyaf.

Mae gennym amrywiaeth helaeth o gartrefi ar gael i’w rhentu a'i gwerthu ledled Canolbarth a De Cymru, gweler y mathau o gartrefi sydd ar gael isod. Rydym hefyd yn adeiladu cartrefi newydd, gan sicrhau bod pob cartref yn ddeniadol, yn eang, yn hygyrch ac yn defnyddio ynni’n effeithlon. Efallai bydd yna rai tai yn codi rhent yn uwch na'r isod. 

Yn unol â'n Cynllun Corfforaethol, ein nod yw darparu 600 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn darparu cartrefi effeithlon, sydd o ansawdd uchel ac sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r cymunedau y cânt eu hadeiladu ynddynt. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am ein tîm datblygu, a'r hyn y maent wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.