
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD
Mae hi’n bwysig bod eich system dŵr poeth yn cael ei gadw’n boeth, bod eich dŵr oer yn cael ei gadw’n oer, a bod y dŵr yn gyffredinol yn cael ei gadw i gylchredeg drwy ddefnydd rheolaidd. Os ydych yn mynd ar wyliau ac yn gadael eich cartref yn wag am ychydig ddyddiau neu fwy, pan fyddwch yn dod adref gwnewch yn siŵr eich bod yn fflysio eich tapiau a’ch cawodydd (cofiwch am unrhyw dapiau tu allan) drwy eu cadw nhw i redeg am o leiaf 2 funud.

BOELER
Mae hi'r un mor bwysig eich bod yn dweud wrthym os nad yw eich boeler yn gweithio’n iawn, yn enwedig os ydych yn sylwi bod unrhyw weddillion neu afliwiad yn y dŵr sy’n llifo o’ch tapiau. Gallwch roi gwybod i ni drwy anfon neges ar Fy Newydd, ffonio 0303 040 1998 neu anfon neges destun i 07422 128780. Gofynnwn i chi beidio ag ymyrryd â’r gosodiadau ar eich boeler neu system dŵr poeth. Yn dilyn eich gwasanaeth gwresogi blynyddol, bydd y dŵr poeth wedi ei osod fel bod y dŵr yn cael ei gynhesu i 60°C. Dyma’r tymheredd lle nad yw’r bacteria Legionella yn medru tyfu.
CAWODYDD
Os oes gennych chi gawod, mae hi’n bwysig eich bod yn glanhau pen y gawod bob 3 mis. I’r rhai hynny nad sy’n talu am y gwasanaeth hwn drwy eu tâl gwasanaeth, y dull traddodiadol yw:
1. Dadsgriwio pen y gawod a'r bibell a’i osod mewn bag plastig
2. Arllwys hydoddiant o un-rhan finegr gwyn i un-rhan dŵr a’i adael am 3 awr (gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw ddad-galchydd cyffredinol)
3. Rinsiwch pen y gawod a'r bibell yn drwyadl.
Bydd hyn yn cael gwared ag unrhyw galch a gwaddod sydd fel arall yn darparu’r amgylchedd iawn i Legionella dyfu.
Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw bryderon pellach.
enquiries@newydd.co.uk
0303 040 1998
07422 128780