Chwistrellwyr
Ers 2016, bu’n ddeddfwriaeth fod chwistrellwyr tân i gael eu gosod ymhob tŷ a fflat, domestig neu breswyl, newydd neu wedi'i addasu, yng Nghymru.
Cynhelir archwiliad blynyddol er mwyn sicrhau bod eich systemau chwistrellu yn gwbl weithredol. Bydd angen mynediad i'ch eiddo ac felly mae'n bwysig eich bod i mewn ar yr amser a’r dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer yr apwyntiad. Bydd ein contractwyr yn ceisio eu gorau i ddarparu dyddiad ac amser penodol ar eich cais. Gall gwasanaeth i’r system chwistrellu gymryd unrhyw beth rhwng 15-45 munud.
Dyma rai rheolau syml i'n helpu ni i'ch cadw'n ddiogel:
- Peidiwch ag addurno dros y gorchuddion chwistrellu gwyn cylchol sydd ar y nenfwd, gan y gallai hynny effeithio ar eu gweithrediad.
- Peidiwch â rhwystro'r chwistrellwyr gan y gallai unrhyw beth sy'n cael ei osod o'i flaen atal y chwistrell rhag cyrraedd y tân.
- Wrth addurno, byddwch yn ofalus i osgoi defnyddio stêm yn rhy agos at chwistrellwr, er enghraifft, i gael gwared ar bapur wal. Bydd system chwistrellu yn dod yn weithredol ar dymheredd uchel, sef 68°C i fod yn fanwl gywir. Ni fydd mwg yn gwneud i’ch system chwistrellu ddod yn weithredol.
I ddarllen mwy am ddiogelwch tân, darllenwch y daflen wybodaeth yma gan Lywodraeth y DU. Yn anffodus, nid oes fersiwn Cymraeg o'r daflen wybodaeth yma ar gael.
Os ydych chi'n byw mewn bloc o fflatiau a hoffech chi gael copi o'n cynllun diogelwch rheoli tân ar gyfer ardaloedd cymunedol eich adeilad, cysylltwch â ni ar 0303 040 1998.