Radon

Nwy ymbelydrol di-liw, diarogl sy'n digwydd yn naturiol mewn pridd a chreigiau yw radon. Yn yr amgylchedd, nid yw radon yn peri fawr ddim risg, ond os yw radon yn casglu mewn adeilad caeedig gall effeithio ar iechyd pobl. 

Gan fod radon yn anweledig, a chan nad oes ganddo arogl na blas, dim ond drwy gynnal profion mae canfod radon. Dan ein dyletswydd o ofal i chi, byddwn yn cynnal arolwg nwy radon ym mhob eiddo Newydd, ac yn blaenoriaethu lleoliadau gan ddefnyddio map radon y DU a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd. 

Mae'r arolwg ei hun yn rhwydd ac ni fydd yn effeithio arnoch chi. Byddwn yn gosod un neu ragor o fonitor/au radon mewn lleoliad addas i gasglu data. Bydd angen i'r ddyfais aros yn ei lle am 3 mis. Peidiwch â symud, gorchuddio, nac ymyrryd â'r ddyfais; ar ôl 3 mis bydd y monitor yn cael ei gasglu a'i anfon i ffwrdd i'w ddadansoddi ac rydym am gasglu darlleniadau cywir.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y camau y byddwn yn eu cymryd, os bydd rhai, unwaith y bydd y canlyniadau'n cael eu cadarnhau.