Adfywio Cymunedol & Chynnwys Tenantiaid

Cyflwyniad i bartneriaeth cymunedol

Mae’r tîm Adfywio Cymunedol yn helpu i adfywio ein cymunedau, yn cael effaith bositif ar fywydau ein tenantiaid, eu teuluoedd a chymunedau o ddiddordeb, ac yn rhoi tenantiaid wrth galon popeth a wnawn. Mae’r holl gymorth yr ydym yn ei ddarparu AM DDIM, felly cysylltwch â ni os ydych chi’n credu y gallwn ni’ch helpu chi!

I gwrdd â’r nodau hyn, mae’r tîm yn gweithio i’r themâu canlynol:

  • Cynhwysiant digidol
  • Addysg, cyflogaeth a hyfforddiant
  • Iechyd a llesiant
  • Buddion cymunedol
  • Cynnal tenantiaeth
  • Diogelu
  • Adfywio ffisegol
  • Cynnwys/craffu tenantiaid
  • Mae Tîm Cynhwysiant Ariannol Newydd hefyd yn cynnig cyngor ariannol i denantiaid.

Drwy gymryd rhan yn ein gweithgareddau, gallwch:

  • Wneud gwahaniaeth i fywydau tenantiaid
  • Gwrdd â phobl newydd
  • Wella eich iechyd meddwl a ffitrwydd corfforol
  • Ddysgu sgiliau newydd neu hyd yn oed ennill cymwysterau os hoffech chi wneud hynny
  • Ein helpu ni i wella gwasanaethau
  • Gynllunio a darparu prosiectau sy’n gwella eich cymuned

Cliciwch ar y dolenni ar y chwith i gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael i chi a sut gallwch chi gymryd rhan i helpu i wella’r gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn.

Gofyn am ragor o wybodaeth