Aelodau'r Bwrdd
Rhys Thomas, Cadeirydd
Mae Rhys yn Rheolwr Adeiladu Siartredig gyda dros 12 mlynedd o brofiad mewn darparu tai newydd ac adfywio ar draws De Cymru a De-orllewin Lloegr. Mae bellach yn gweithio i gwmni technoleg carbon sero net arloesol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ddarparu datrysiadau datgarboneiddio fforddiadwy ar gyfer y sector tai cymdeithasol ledled y DU.
Mae Rhys wedi bod yn rhan o’r bwrdd ers 2015 a gwasanaethodd fel Is-Gadeirydd am dros 5 mlynedd. Yn ei fywyd personol mae Rhys yn byw ym Mro Morgannwg gyda’i deulu ifanc ac yn ei amser hamdden mae’n hoffi helpu ar fferm y teulu.
Shani Payter
Fel Tenant Newydd ers tua 28 mlynedd, mae Shani yn angerddol am sicrhau bod ein cartrefi yn ddiogel, yn fforddiadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Gan weithio o fewn Rheoli Tai, Digartrefedd a Buddsoddiad Cymunedol, mae gan Shani y persbectif unigryw o fod wedi darparu a derbyn gwasanaethau o safbwynt Tai.
Padma Ramanan
Ymunodd Padma â Newydd ym mis Medi 2022 fel Aelod Cyffredin o’r Bwrdd (Ymddiriedolwr). Fel gweithiwr cyllid proffesiynol CCAB cymwys, mae hi'n dod â chyfoeth o brofiad i'n Bwrdd. Mae Padma wedi gweithio am 8 mlynedd mewn llywodraeth leol a 10 mlynedd yn y GIG fel Pennaeth Cyllid mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Phlant. Gwasanaethodd hefyd fel Ymddiriedolwr yng Nghanolfan y Gyfraith Bryste am 7 mlynedd tan 2021; gan gynnwys chwe blynedd fel Trysorydd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n Gadeirydd y pwyllgor cyllid ac yn darparu arbenigedd ariannol ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Rachel Jones
Ymunodd Rachel â Bwrdd Newydd yn 2019 ac mae ganddi 25 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus ar draws ystod o wasanaethau, gan gynnwys rolau yn Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd. Ar hyn o bryd mae Rachel yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Marie Curie gyda chyfrifoldeb am wasanaethau gofal diwedd oes yng Nghymru.
Nick Lawley
Mae Nick yn Gyfarwyddwr gyda Syrfewyr Siartredig Cooke & Arkwright, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n dod â 22 mlynedd o brofiad yn y diwydiant Tirfesur Siartredig i Newydd, yn cynghori cleientiaid ar dir datblygu preswyl a gwerthu a chaffael buddsoddiadau eiddo masnachol. Mae Nick wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers mis Medi 2020 ac mae’n Gadeirydd Bwrdd Living Quarters.
Ceri Morgan
Mae Ceri yn gyfreithiwr ac yn Bennaeth Corfforaethol mewn landlord cymdeithasol cofrestredig Cymreig. Mae'n arwain fframweithiau llywodraethu a sicrwydd, yn goruchwylio timau caffael a iechyd a diogelwch, ac yn rhoi cyngor ar reoli tai. Mae Ceri wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel a sbarduno canlyniadau cadarnhaol i gymunedau.
Hayley Mellors
Mae gan Hayley dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes materion cyhoeddus a chyfathrebu yng Nghymru. Mae hi wedi cael ei phenodi i Fwrdd Newydd yn ddiweddar.
Emma Goodjohn
Mae Emma yn Denant Newydd sydd wedi byw mewn Tai Cymdeithasol am 22 mlynedd. Cynghorydd Sir a Chynghorydd Tref. Ymddiriedolwr YMCA y Barri, Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Whitmore a Chadeirydd Canolfan Gymunedol Buttrills. Yn gerddor proffesiynol am 22 mlynedd ac yn gynrychiolydd rhanbarthol ar gyfer Cerddorion yn Erbyn Digartrefedd. Eiriolwr dros awtistiaeth ac addysgwr cartref hirdymor.
Lynne Burrows
Mae Lynne yn gyfrifydd â chymhwyster CCAB gyda 40 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn rolau strategol yn y sector Preifat a Chyhoeddus ar lefel Genedlaethol, Rhanbarthol a lleol. Ymddeolodd Lynne yn ddiweddar o'r GIG lle bu'n Arweinydd y Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol yn darparu rhaglenni gwaith strategol. Ymunodd Lynne â Newydd yn 2019 ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Newydd Maintenance Limited.