Mathau o waith trwsio

Argyfyngau trwsio

Mae swyddfa Newydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 4.30pm. Y tu hwnt i’r oriau hyn byddwn yn ymateb i argyfyngau trwsio yn unig. Ceir rhestr o argyfyngau trwsio nodweddiadol isod.

Diffinnir argyfwng fel rhywbeth na allech fod wedi’i ragweld ac yn rhywbeth a allai achosi perygl i iechyd a diogelwch y tenantiaid, neu ddifrod a distryw difrifol i eiddo. Fel arfer, bydd y tîm cynnal a chadw sy’n cael ei alw allan mewn argyfwng yn diogelu’r broblem er mwyn ei thrwsio’n gyfan gwbl ac yn briodol yn ystod oriau gwaith arferol. Mae’r mathau o waith mae’r tîm yn cael ei alw allan ar ei gyfer yn cynnwys:

  • Toeau sy’n gollwng yn ddifrifol
  • Draeniau wedi blocio
  • Eich unig doiled wedi blocio
  • Colli pŵer neu olau trydan
  • Colli nwy
  • Colli gwres mewn tywydd oer pan nad oes unrhyw fath arall o wres ar gael
  • Colli gwresogydd troch os hwn yw’r unig beth sy’n darparu dŵr poeth
  • Peipiau wedi byrstio

Rydym yn cydnabod y bydd angen i bensiynwyr a thenantiaid sy’n agored i niwed gael blaenoriaeth mewn amgylchiadau penodol. Os bydd contractwr yn cael ei alw allan i drwsio rhywbeth mewn argyfwng pan nad oes argyfwng trwsio wedi’i gyfiawnhau, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu’r holl gostau dan sylw.

I roi gwybod am argyfwng trwsio y tu allan i oriau swyddfa, dylech ein ffonio ar 0303 040 1998 24 awr o'r diwrnod. Mae angen rhoi gwybod am bob atgyweiriad brys dros y ffôn i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ar unwaith.

Gwaith trwsio arferol

Gwaith trwsio yw hwn sydd â llai o frys amdano, ac sy’n gallu aros ychydig cyn rhoi sylw iddo. Mae’n cynnwys mân broblemau gyda thoiledau, bath, sinciau, drysau neu ffenestri’n cydio, trwsio plastr, bricwaith, a gwaith trwsio mewnol ac allanol arall nad oes brys i’w gwblhau.

Gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio

Os oes modd cynllunio gwaith cynnal a chadw ymlaen llaw, gallwn drefnu ei wneud ar grŵp o gartrefi ar yr un pryd, er mwyn cadw’r costau i lawr. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i’ch cartref er mwyn ei gadw mewn cyflwr da, ac i sicrhau ei fod yn llety diogel i chi ac i’ch teulu. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys peintio allanol, trwsio drysau a ffenestri i’w paratoi ar gyfer eu peintio, newid boeleri, trin gwres canolog a theclynnau nwy bob blwyddyn, ac archwilio a phrofi’r teclynnau sy’n cael eu darparu gennym.

Byddwn ni neu’r contractwr yn cysylltu â chi ymlaen llaw i wneud unrhyw arolygon a all fod yn ofynnol cyn i’r gwaith ddechrau.