Asbestos

Cafodd mewnforio, cyflenwi a defnyddio asbestos ei wahardd yn y DU yn 1999. Os adeiladwyd eich cartref cyn yr amser yma, yna mae'n bosib bod asbestos yn cael ei ddefnyddio wrth ei adeiladu. 

Mae asbestos yn beryglus dim ond pan mae'r ffibrau'n cael eu rhyddhau i'r awyr a'u hanadlu i mewn. Ni fydd yn risg i chi na'ch teulu os nad ydych yn tarfu arno. Efallai y dewch ar ei draws wrth wneud DIY, felly mae'n hanfodol nad ydych yn torri, drilio, sandio, crafu neu geisio cael gwared ar unrhyw ddeunyddiau sydd ag asbestos yn sail iddo. Os nad ydych chi'n gwybod i sicrwydd a yw rhywbeth yn cynnwys asbestos, mae'n fwy diogel tybio ei fod.

Os nodir bod deunydd asbestos o fewn ardal gymunedol, cynhelir archwiliad blynyddol i fonitro cyflwr y deunydd, a lle mae'r deunydd asbestos wedi dirywio mae gwaith adfer yn cael ei wneud.

Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw welliannau i'r cartref, neu’n sylwi ar unrhyw ddirywiad mewn deunydd sy’n cynnwys asbestos, rhaid i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.

Mae deunyddiau sy’n cynnwys asbestos i’w gweld yn gyffredin mewn lleoedd fel:

  • Panelau tu mewn i gwpwrdd crasu dillad, yn yr atig, ac ar gefn drysau’r cwpwrdd bwyler
  • Gwteri, tanciau dŵr, to’r garej / sied
  • Gorffeniadau nenfwd (artex) ar waliau a nenfydau
  • Teils llawr gan gynnwys gludyddion
  • Lagin pibelli

Cofiwch, nid yw asbestos sydd mewn cyflwr da yn berygl.




Lle mae’n cuddio?

Tu mewn i eiddo

A. Tanc dŵr sment asbestos 

B. Lagin pibelli

C. Inswleiddio llenwad rhydd

D. Gorffeniadau addurnol gwead bras ee artex

E. AIB Teils nenfwd 

F. Paneli bath

G. Sedd tŷ bach a’r seston ddŵr 

H. Tu ôl i’r bocs ffiwsiau 

I. AIB Cwpwrdd crasu dillad neu fwyler cotio 

J. AIB Wal bartisiwn 

K  AIB Paneli ffenestr fewnol

L. O gwmpas y bwyler 

M. Teils llawr finyl 

N. AIB Tu ôl i’r lle tân 

Tu fas i’r eiddo

O. Gwteri a phibelli dŵr sment asbestos  

P. Estyll o dan y bondo neu sment asbestos 

Q. AIB Paneli ffenestr allanol

R. Toeon sment asbestos  

S. Paneli sment asbestos  

T. Ffelt toi 

AIB = Bwrdd Inswleiddio Asbestos (Asbestos Insulating Board)