Gilfach Rd

Tonyrefail

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi datblygiad tai newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a WK Plasterers Ltd. Llofnodwyd contractau ym mis Ionawr 2024, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod gwanwyn 2024.

Bydd y datblygiad hwn yn cynnig 12 cartref newydd ar rent fforddiadwy, wedi'u hadeiladu i'r sgôr effeithlonrwydd ynni uchaf (EPC-A) i gadw effaith amgylcheddol yn isel a biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr yn y tymor hir. Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • 4 x fflat 1 ystafell wely 2 berson wedi'u haddasu
  • 4 x fflat 1 ystafell wely 2 berson
  • 4 x fflat 2 ystafell wely 3 pherson

Derbyniodd y cynllun arian gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghenion tai lleol a bydd yn cael ei gwblhau yn hydref 2025.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau cartref yn Rhondda Cynon Taf, dechreuwch drwy gofrestru gyda'r awdurdod lleol. Byddant yn eich arwain drwy'r broses ymgeisio ac yn mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Archwiliwch pob cartref