Bridge Road

Cwmbach

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi datblygiad tai newydd ar hen safle Ysgol Gynradd Cwmbach mewn partneriaeth â Cosgrove a Chyngor Rhondda Cynon Taf, efo arian gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Bydd y datblygiad hwn yn cynnig 17 byngalos 2-ystafell wely, wedi'u hadeiladu i'r sgôr effeithlonrwydd ynni uchaf sef EPC A gyda systemau tanwydd gwresogi di-ffosil a phaneli solar. Mae hyn i gadw effaith amgylcheddol yn isel a biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr yn y tymor hir.

Bydd y strwythurau ffrâm bren ar gyfer y datblygiad tai yma yn cael ei adeiladu gan Celtic Offsite dim ond 15 milltir i ffwrdd. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi sgiliau a swyddi lleol ond fydd yn helpu ni hefyd i gyflawni ein nod o greu datblygiad tai sy’n gynaliadwy ac ynni effeithlon.

Bydd system draenio gynaliadwy yn cael ei ymgorffori yn y datblygiad, bydd rhan o hyn yn cynnwys ardal blodau gwyllt i wella bioamrywiaeth y safle.

Archwiliwch pob cartref