Os nad yw eich ymholiad yn un brys, ystyriwch ddefnyddio dulliau eraill i gysylltu â ni
Ar gyfer unrhyw ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, gofynnwn yn garedig i chi eu hanfon atom gan ddefnyddio eich cyfrif MyNewydd neu e-bostiwch enquiries@newydd.co.uk
Gweithio mewn partneriaeth tâ Cyngor Bro Morgannwg, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad £3.3 miliwn hwn ym mis Tachwedd 2019.
Mae'r datblygiad yma yn darparu 28 cartref, gan gynnwys 3 fflat wedi’u haddasu, am rent fforddiadwy yn nhref glan môr ddymunol y Barri.
Dechreuodd Sterling Construction Ltd weithio ar y safle ym mis Mawrth 2021.
Derbyniodd y cynllun arian gan y Cynllun Tir ar Gyfer Tai Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion tai lleol.
Roedd y safle gynt yn eiddo i Dafarndai Brains ac fe’i prynwyd gan Newydd fel rhan o bortffolio o 3 safle. Cyn ailddatblygu defnyddiwyd yr adeilad fel clwb llafur.
Dylai preswylwyr sydd â diddordeb mewn rhentu unrhyw un o eiddo Newydd ym Mro Morgannwg gofrestru gyda Homes4U, y gofrestr tai fforddiadwy ar gyfer y sir.