Yn yr adran yma, rydym wedi rhannu'r wybodaeth a'r adnoddau gorau i chi ar gyfer cynnal cartref diogel. Mae'r adran yma yn cynnig cipolwg ar ddiogelwch trydanol, hylendid dŵr, yn ogystal â gwybodaeth hanfodol am radon ac asbestos.
Isod mae rhai o’n hawgrymiadau diogelwch trydanol y gallwch eu dilyn i leihau’r siawns o ddigwyddiad trydanol yn eich cartref.
Diogelwch trydanol
Mae diffyg cynnal a chadw neu camddefnydd o osodiadau trydannol gallu arwain at dân, anafiadau difrifol, neu hyd yn oed marwolaeth.
Wrth ddilyn y camau syml yma, fedrwch chi leihau’r tebygrwydd o ddigwyddiad trydanol yn eich cartref:
Sicrhewch eich bod yn caniatáu mynediad i ni i gael profi eich gosodiadau trydanol pan fo angen. Fel arfer, mae hwn bob pum mlynedd ac yn cymryd tua thair i bedair awr i gwblhau. Fel rhan o’r prawf hwn, bydd unrhyw ffitiadau sydd angen eu newid yn cael eu newid a bydd unrhyw uwchraddiadau sydd eu hangen yn cael eu cwblhau.
Sicrhewch eich bod yn gwybod lleoliad eich uned defnyddwyr/bwrdd ffiwsiau a sut i’w ddefnyddio petai doriad yn eich cylched yn eich cartref.
Peidiwch â gadael eitemau ar stand-by
Peidiwch a gadael teclynau yn gwefru neu gadael sychwr dillad ymlaen pan nad ydych gartref.
Peidiwch a gorlwytho socedi trydan. Os nad ydych yn siwr os yw eich soced wedi ei orlwytho, defnyddiwch y cyfrifiadur ar lein hwn i weld.
Peidiwch â gadael ceblau byw lle mae peryg baglu drostyn nhw neu lle gallent nhw ddifrodi.
Sicrhewch fod eich offer mewn cyflwr da ac nad yw’r gwifrau a’r plygiau wedi’u difrodi mewn unrhyw ffordd.
Prynwch eich offer trydanol gan fanwerthwyr parchus a sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â safonau Prydeinig.
Os mai popty trydan sydd gyda chi, gwnewch yn siŵr mai trydanydd cymwysedig sy’n ei osod
Peidiwch â cheisio unrhyw waith trydanol eich hun. Mae Newydd yn apwyntio trydanwyr cymwys yn unig i gwblhau’r gwaith yn eich cartref.
Peidiwch â defnyddio offer trydanol yn yr ystafell ymolchi.
Peidiwch â defnyddio offer garddio trydanol tu allan mewn tywydd gwlyb.